Gwinllan Vina Robles

Fel dych chi’n gwybod erbyn hyn, dw i’n dwlu ar gerddoriaeth, gwin, bwyd, ac ymlacio mewn llefydd gogoneddus.

Felly beth allai fod yn well na’u cyfuno nhw a chael profiad unigryw? Wel, mae perchnogion gwinllan Vina Robles yng Nghaliffornia wedi gwneud yn union hynny. Beth sy’n fwy diddorol ydy bod y ddau oedd wedi dechrau’r winllan yn dod o’r Swistir yn wreiddiol. Roedd y ddau ffrind, Hans Nef a Hans Michel, wedi prynu tir yn Paso Robles yn y nawdegau. Roedden nhw wedi plannu eu gwinllan gyntaf yn 1997 – a chafodd Vina Robles ei geni. Agorodd Nef a Michel eu hystafell flasu gyntaf yn 2007 i roi Vina Robles Winery “ar y map”. Yna, yn 2013, agoron nhw safle bach ar gyfer cyngherddau ar bwys eu gwinllannoedd a’u canolfan ymwelwyr: Amffitheatr Vina Robles.

Amffitheatr Vina Robles

Darganfod fy lle hapus

Ro’n i’n gyfarwydd â gwinoedd Vina Robles, ond nid tan 2016 wnes i ddod i wybod am yr amffitheatr. Ro’n i newydd weld y band YES yn perfformio yn Santa Barbara, ac eisiau mynd i gyngerdd arall ar y daith. Roedd eu cyngerdd nesa yn Vina Robles, dim ond dwy awr o Santa Barbara. Prynais i docyn, es i’r sioe, a dyna sut wnes i ddarganfod fy lle hapus!

Cyrhaeddais Vina Robles i ddarganfod amffitheatr fach hyfryd ymhlith y gwinllannoedd – gyda pharcio hawdd, seddi cyfforddus, bwyd blasus, staff cyfeillgar ac, wrth gwrs, gwin anhygoel! Cwympais mewn cariad â’r lle’n syth, a dw i wedi gweld lot o gyngherddau yno dros y blynyddoedd. Dw i’n dal i ddweud wrth unrhyw un fydd yn gwrando mai Vina Robles yw fy hoff le i weld cyngherddau.

Pawlie o flaen y fynedfa i Amffitheatr Vina Robles

Unwaith, ro’n i’n sgwrsio gyda thywysydd cyn y perfformiad, yn disgrifio pam mai Vina Robles yw fy hoff le i weld cyngherddau. Roedd dyn cyfeillgar wedi ymuno â’r sgwrs. Gwrandawodd am sbel, yna gofynnodd a oedd gen i unrhyw awgrymiadau i wneud Vina Robles hyd yn oed yn well. Soniais am ychydig o bethau bychain, yna dwedodd y dyn: “Diolch, syr” cyn cerdded i ffwrdd. “Pwy yw e?” gofynnais i’r tywysydd. “Hans Michel” meddai, “…un o’r perchnogion!” Dyna’r math o le yw Vina Robles.

Crowded House yn anhygoel!

Do’n i ddim wedi gweld cyngerdd yn Vina Robles ers 2021. Felly pan glywais bod Crowded House – un o fy hoff fandiau ers yr wythdegau – yn dod i Vina Robles ym mis Medi eleni, prynais i docyn yn syth bin. Roedd y cyngerdd yn anhygoel, gyda’r prif leisydd a’r cyfansoddwr Neil Finn yn arwain y band trwy ddwy awr o’u caneuon eiconig.

Crowded House yn perfformio yn Vina Robles

Gyda Nick Seymour ar y gitâr fas a Mitchell Froom ar yr allweddellau, mae Crowded House nawr yn cynnwys meibion Neil Finn: Liam ar y gitâr drydan, ac Elroy ar y drymiau. Yn drist, bu farw eu drymiwr gwreiddiol, Paul Hester, yn 2005. Roedd Hester yn ddrymiwr ac yn ddigrifwr ar y llwyfan, ac mae’r band yn cadw ei ysbryd yn fyw bob nos trwy gellwair gyda’i gilydd a’r gynulleidfa.

Yn anffodus, cyn y gyngerdd dysgais i fod Hans Nef wedi marw yn 2019. Roedd gan Nef obsesiwn â rhoi croeso cynnes i ymwelwyr ac mae hynny’n amlwg pan dych chi’n mynd i Vina Robles. Ers 2019, mae teulu Nef wedi gweithio gyda Hans Michel a’i deulu i sicrhau llwyddiant Vina Robles i’r dyfodol.

Roedd fy mhrofiad diweddaraf yn Vina Robles yn anhygoel: band gwych, bwyd a gwin blasus, staff cyfeillgar, a naws ymlaciol. Diwrnod perffaith.

Basai Hans Nef yn falch.

Y gynulleidfa yn gwylio Crowded House