Bydd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf heddiw (dydd Mercher, 7 Awst).
Roedd 45 wedi trio ar gyfer y gystadleuaeth eleni ac mae pedwar wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Y pedwar ydy Joshua Morgan, Antwn Owen-Hicks, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Fe fyddan nhw’n dod at ei gilydd ar Faes yr Eisteddfod. Byddan nhw’n sgwrsio gyda’r beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan. Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn Mawr am 2.10yp heddiw.
Dyma’r pedwar…
Joshua Morgan
Mae Joshua Morgan yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Symudodd i Loegr o Gymru pan oedd yn saith oed, cyn dod yn ôl i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd o wedi byw yn Ne Affrica am ddwy flynedd ac wedi astudio isiXhosa – un o ieithoedd swyddogol De Affrica.
Aeth ati i ddysgu Cymraeg a chreu’r llyfr 31 Ways to Hoffi Coffi ar gyfer teulu a ffrindiau. Roedd yn boblogaidd efo dysgwyr hefyd.
Dechreuodd Josh greu darluniadau o’i daith yn dysgu Cymraeg. Erbyn hyn mae mwy na 10,000 o ddysgwyr yn defnyddio darluniadau a gwersi ‘Sketchy Welsh’.
Mae’n gweithio fel athro yn Ysgol ArbennigGreenfield, Merthyr Tudful. Mae wedi helpu’i ddosbarth i greu llyfr dysgu Cymraeg o’r enw Lles. Mae’n creu fideo bob wythnos gyda’i ddosbarth er mwyn dysgu Cymraeg i’r ysgol.
Antwn Owen-Hicks
Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg bob dydd yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi bod yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd. Cafodd ei fagu mewn cartref di-gymraeg – ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.
Dechreuodd gymryd diddordeb yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain a dechrau dysgu Cymraeg pan ddaeth yn ôl i Gymru. Mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A’ Cymraeg.
Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy. Ei ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.
Mae’n un o sylfaenwyr y band gwerin Cymraeg, Carreg Lafar. Mae’r band wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a gogledd America.
Alanna Pennar-Macfarlane
Mae Alanna Pennar-Macfarlane yn dod o’r Alban yn wreiddiol. Rŵan mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi dilyn un wers Gymraeg o leiaf bob dydd ers bron i chwe blynedd a hanner ar ap Duolingo.
Mae ganddi ddyslecsia ond dydy hynny ddim wedi ei rhwystro rhag dysgu Cymraeg.
Mae Alanna wedi ysbrydoli’i theulu i ddysgu Cymraeg. Mae ei chwaer yng nghyfraith a’i mam yn dysgu rŵan.
Mae hi hefyd wedi datblygu adnoddau a fyddai wedi’i helpu hi i ddysgu Cymraeg. Lansiodd ei Dyddiadur i Ddysgwyr ym mis Tachwedd 2023. Mae wedi gwerthu dros 200 o gopïau i ddysgwyr ar draws y byd.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr nodiadau i helpu gyda rheolau treiglo, a dyddiadur academaidd wedi’i anelu at siaradwyr newydd.
Elinor Staniforth
Dechreuodd Elinor Staniforth ddysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn, mae hi’n dysgu Cymraeg i bobl eraill. Cafodd ei magu mewn cartref di-gymraeg yng Nghaerdydd. Roedd wedi astudio celfyddyd gain yn Rhydychen cyn dod yn ôl i Gymru.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg cyn Covid, er mwyn cyfarfod pobl a’i helpu i gael swydd yn y celfyddydau.
Mae dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd ac wedi rhoi llawer o hyder iddi. Erbyn hyn mae’n diwtor Cymraeg i oedolion ac yn ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.
Mae’n gobeithio cyfuno ei diddordeb mewn dysgu Cymraeg a chelf yn y dyfodol. Mae hi eisiau cynnal cyrsiau celf i ddysgwyr a siaradwyr hyderus.
Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr prynhawn ma. Byddan nhw’n cael Tlws Dysgwr y Flwyddyn gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, sy’n rhodd gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.
Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn cael tlws a £100 yr un. Bydd y pedwar hefyd yn cael tanysgrifiad i gylchgrawn Golwg a rhoddion gan Merched y Wawr.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst.