Mae dwy ddysgwraig wedi ennill Medalau yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 heddiw (dydd Mercher, 29 Mai).

Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug sydd wedi ennill Medal Bobi Jones (19-25 oed).

Melody Griffiths o Wrecsam sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr (Blwyddyn 10 ac o dan 19 oed).

Mae cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yn gwobrwyo unigolyn sydd wedi dysgu Cymraeg ac sy’n ymfalchïo mewn Cymreictod. Roedd yr ymgeiswyr wedi cael nifer o dasgau ar y Maes heddiw. Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Karina Wyn Davis a Cyril Jones.

Mae seremoni Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yn cael eu noddi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Enillydd Medal Bobi Jones Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug

Medal Bobi Jones

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei roi i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan oedd hi’n ifanc. Mae hi’n 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores. Roedd hi wedi perfformio gwaith Alys Hedd yn seremoni’r Fedal Ddrama ddoe.

Meddai: “Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg bron i ddwy flynedd yn ôl, diolch i fy ffrind gorau Caitlin, sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Wnes i sylwi pa mor arbennig yw e i fod yn Gymraeg, mae hi’n iaith mor brydferth, ac os dwi’n byw yma, dylwn i siarad yr iaith. Fy nghyfrifoldeb i yw hi i barchu iaith a diwylliant fy ngwlad.

“Mae siarad Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi yn y byd celfyddydau yng Nghymru. Rwy’n teimlo ymdeimlad cryfach o hunaniaeth o fewn Cymru, ac rwyf mor falch o fod yn rhan o’r diwylliant a’r gymuned. Rwy’n teimlo y gallaf ddangos fy mharch at y bobl a’r diwylliant sydd yma, drwy ddysgu iaith y wlad.”

Daeth Emma Grigorian o Gaerdydd yn ail a Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.

Enillydd Medal y Dysgwyr Melody Griffiths o Wrecsam

Medal y Dysgwyr

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei roi i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

Roedd chwe ymgeisydd eleni.

Mae Melody Griffiths, 17 oed, yn ddisgybl yng Ngholeg Cambria. Roedd y tasgau gafodd eu rhoi i’r cystadleuwyr yn cynnwys tasg ysgrifenedig i ddod i nabod y cystadleuwyr yn well, cyfweliad gyda’r beirniaid, a sesiwn cwestiwn ag ateb gyda Llywydd y Dydd, Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C.

Mae Melody wedi dysgu’r iaith gan ei hathrawon yn y coleg, a theulu ei chariad sy’n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf. Meddai Melody: “Ers dysgu Cymraeg, dw i’n teimlo’n falch i fod yn siaradwr newydd, dw i’n defnyddio’r iaith bob dydd. Dw i’n rhedeg clwb dysgu Cymraeg wythnosol i fyfyrwyr y Coleg ac yn gwneud gwaith cyfieithu gwirfoddol yn y gymuned.

“Dw i’n credu bod o’n bwysig i gadw’r iaith yn fyw, ac yn bresennol yn ein bywydau. Mae’n rhywbeth dw i wedi gorfod rhoi i’w ddysgu, ond mae’n werthfawr. Dw i’n teimlo fod yr iaith yn ffordd dda i gysylltu fy hun gyda’r diwylliant, hanes, a phawb arall yng Nghymru.

“Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio bod yn athrawes Gymraeg, dwi eisiau ysbrydoli plant a darparu’r un math o gyfleoedd Cymraeg â’r hyn rydw i wedi ei gael.”

Daeth Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail, a Alex McLean o’r Wyddgrug yn drydydd.

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei rhoi gan Fenter Iaith Maldwyn a Medal y Dysgwyr gan Gyngor Sir Powys.

@golwg360

Llongyfarchiadau mawr i Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones a Melody Griffiths, enillydd Medal y Dysgwyr 👏 #cymru #eisteddfod #dysgucymraeg

♬ original sound – golwg360