Dach chi’n mynd i Ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd y penwythnos yma?

Bydd llawer o gerddoriaeth fyw gan artistiaid fel Lloyd, Dom, Don + Sage Todz, Celt, Buddug, Gwilym, HMS Morris, Meinir Gwilym a llawer mwy.

Ond mae llawer o ddigwyddiadau eraill yn Tafwyl, a llawer o bethau ar gyfer dysgwyr.

Ym Mhabell y Dysgwyr, fe fydd Pegi Talfryn – yr awdur, tiwtor Cymraeg gyda Popeth Cymraeg a cholofnydd Lingo360 – yn sgwrsio am ei llyfr newydd i ddysgwyr Rhywun yn y Tŷ? ddydd Sadwrn (13 Gorffennaf) rhwng 12 a 12.45pm.

Clawr y llyfr Rhywun yn y Tŷ? gan Pegi Talfryn

Mae’r llyfr yn addas i ddysgwyr lefel Mynediad+ a bydd Pegi ar gael i ateb eich cwestiynau.

Mae Pegi yn byw yn Waunfawr wrth ymyl Eryri.

Mae hi’n dweud bod Rhywun yn y Tŷ? yn stori arswyd. Mae’r stori yn digwydd ym mhentref Llandonwyr – lle mae’r stori gyfres Y Dawnswyr (wnaeth ymddangos yn Lingo Newydd) yn digwydd.

Y prif gymeriad ydy Manon Hughes.  Athrawes ydy hi. Mae hi’n gweithio’n galed yn yr ysgol ac yn mwynhau byw mewn tŷ newydd yn Llandonwyr.  Mae gynni hi gi o’r enw Cadno.  Dydy hi ddim yn berson ofnus.

Ond mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd.

Mae Pegi’n dweud: “Dach chi’n mynd i weld rhywun dach chi’n ‘nabod o stori Y Dawnswyr.  Ond y cwestiwn mawr ydy – oes rhywun yn y tŷ?”

Ewch draw i ofyn y cwestiwn i Pegi ddydd Sadwrn (13 Gorffennaf) ym Mhabell y Dysgwyr, Tafwyl, Parc Bute, Caerdydd rhwng 12 a 12.45pm.

Sebra sydd wedi cyhoeddi Rhywun yn y Tŷ?