Oeddech chi yn Llyfrgell Wrecsam wythnos ddiwethaf i glywed sgwrs arbennig iawn rhwng dau ddysgwr Cymraeg?

Roedd y llyfrgell dan ei sang wrth i bobl ddod draw i glywed Stephen Rule a Francesca Sciarrillo yn siarad am eu taith i ddysgu’r iaith.

Mae Stephen Rule yn cael ei adnabod fel ‘Doctor Cymraeg’ ac mae ganddo 58,000 o ddilynwyr ar Instagram. Mae Francesca Sciarrillo yn golofnydd i Lingo Newydd a Lingo360 a hefyd yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru.

Cafodd y sgwrs rhwng y ddau ei chynnal yn Llyfrgell Wrecsam nos Iau ddiwethaf (18 Ebrill).

Roedd gan Stephen a Francesca straeon diddorol i’w dweud am yr effaith mae’r Gymraeg wedi’i chael ar eu bywydau. Roedd y sgwrs yn Saesneg yn bennaf gyda digon o Gymraeg hefyd. Gallwch chi wrando ar y sgwrs yma.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan gylchgrawn Lingo Newydd a’i gefnogi gan Gyngor Llyfrau Cymru a Cymru Greadigol, trwy brosiect Ein Stori Ni.