Wrth deithio i Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni roedd Irram Irshad wedi penderfynu crwydro Canolbarth Cymru – ardal nad ydy hi wedi ymweld â hi o’r blaen. Mae Irram yn fferyllydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n dysgu Cymraeg ac yn caru hanes. Dyma ail ran ei cholofn a’r tro yma mae hi’n ymweld â’r Drenewydd…
Mae’r Drenewydd yn dref ddiddorol iawn yn bensaernïol ac yn hanesyddol, gyda dewis da o siopau a bwytai a chaffis. Roedd yna eglwysi hardd, un yn edrych fel Eglwys Gadeiriol, ond roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn tri adeilad arall – dwy amgueddfa a bloc o fflatiau.
Amgueddfa Robert Owen
Dysgais am Robert Owen (1771-1858) yn yr ysgol – roedd yn cael ei alw’n ‘Tad Sosialaeth’. Roedd yn dod o’r Drenewydd, ac wedi dechrau’r syniad o greu cymuned gydweithredol. Roedd yn credu mewn addysg i bawb ac amodau gwaith gwell mewn ffatrïoedd. Adeilad pren yw’r amgueddfa. Cafodd Robert Owen ei eni yn yr adeilad ar draws y ffordd sydd nawr yn Fanc HSBC. Y drws nesaf mae Gwesty’r Bear lle bu farw Robert Owen.
Roedd llawer o felinau gwlân yn Y Drenewydd ar y pryd. Dechreuodd Robert Owen weithio mewn siop pan oedd yn ifanc iawn. Yna yn 1781, yn 10 oed, gadawodd y Drenewydd i ddod yn brentis dillad yn Stamford. Symudodd i fusnes manwerthu ym Manceinion ar ôl hynny. Pan oedd yn 21 oed, roedd Robert Owen yn rheolwr ar un o felinau cotwm mwyaf Manceinion.
Cafodd Robert Owen ei arswydo gan amodau gwaith plant yn y ffatrïoedd. Yn 1799, prynodd Robert a’i bartneriaid melinau gwlân yn New Lanark yn yr Alban. Roedd y melinau yn cyflogi 2,000 o bobl. Roedd 500 ohonyn nhw yn blant. Roedden nhw yn dioddef o ddiffyg maeth, a ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu. Roedd Robert Owen wedi gwneud y diwrnod gwaith yn fyrrach ac wedi cyflwyno isafswm oedran fel bod plant o dan 10 oed ddim yn gorfod gweithio. Adeiladodd dai newydd i weithwyr, palmantu’r strydoedd a chyflwyno system o lanhau’r strydoedd. Cafodd siop gydweithredol ei hagor a chafodd yr elw ei ddefnyddio i agor ysgol bentref.
Er nad oedd wedi cael llawer o lwyddiant yn y Senedd gyda’i gynlluniau i ddiwygio ffatrïoedd, roedd wedi parhau i ymgyrchu dros gymdeithas well. Dros amser, dechreuodd ffatrïoedd ledled y DU leihau oriau gwaith, cyflwyno addysg i blant a gwella amodau gwaith yn y ffatrïoedd.
WH Smith & Sons
Mae siop WH Smith yn y Drenewydd yn unigryw iawn. Gallwch gerdded trwy un fynedfa ar y stryd a mynd trwy’r siop gyfan a dod allan o’r ail fynedfa yn y ganolfan siopa. Pam mae hyn yn unigryw? Wel, mae’r fynedfa yn y ganolfan siopa yn fynedfa fodern – ond mae’r un ar y stryd yn dyddio’n ôl i’r 1920au. I fyny’r grisiau mae amgueddfa fach dwy ystafell sy’n olrhain hanes y manwerthwr o’i dechreuad yn Llundain yn 1792.
Yn y 1970au, dechreuodd WH Smith foderneiddio eu siopau, ac eithrio’r Drenewydd. Nid oedd y siop wedi newid llawer dros y blynyddoedd, felly cafodd ei hachub. Mae’r siop yn edrych fel y byddai wedi gwneud pan agorodd gyntaf yn 1927. Cafodd y pethau modern eu tynnu i ddatgelu’r teils, y drychau a’r addurniadau gwreiddiol, sydd mewn cyflwr da o hyd. Cafodd silffoedd derw eu hadfer a goleuadau yn steil y 1920au eu defnyddio.
Mae’r amgueddfa’n dweud sut mae busnes teuluol llwyddiannus yn dal i fod yn un o brif enwau’r stryd fawr ym Mhrydain dros 200 mlynedd yn ddiweddarach. Bu farw Henry Walton Smith, y sylfaenydd, yn ifanc. Roedd ei weddw Anna, wedi parhau gyda’r gwaith – a magu tri o blant yr un pryd. Roedd ei mab ieuengaf wedi cymryd drosodd, a chafodd y siopau eu henwi ar ôl William Henry Smith.
Pryce Pryce-Jones
Roedd rhai arloeswyr gwych yn dod o’r Drenewydd. Mab enwog arall y dref yw Syr Pryce Pryce-Jones (1834-1920). Roedd wedi newid y ffordd roedd pobl yn prynu nwyddau. Ei gwmni oedd y cyntaf yn y byd i werthu nwyddau drwy’r post. Roedd wedi cyflwyno’r catalog archebu drwy’r post cyntaf yn 1861. Roedd yn golygu bod pobl yn gallu archebu nwyddau drwy’r post ac wedyn roedden nhw’n cael eu cludo ar y trên i’w gwsmeriaid. Roedd angen adeilad mwy ar gyfer yr holl archebion, ac fe adeiladodd warws, y Royal Welsh Warehouse, wrth ymyl y rheilffordd.
Roedd gan Pryce restr o gwsmeriaid enwog – Florence Nightingale, y Frenhines Fictoria, ac aelodau brenhinol eraill yn Ewrop. Roedd hefyd yn gwerthu i America ac Awstralia, ac roedd ganddo dros 200,000 o gwsmeriaid.
Mae’r adeilad brics coch o’r 19eg ganrif, sef y Royal Welsh Warehouse, yn dal i sefyll yng nghanol y Drenewydd. Mae’n fflatiau erbyn hyn. Bu farw Pryce yn 1920 yn 85 oed. Cafodd ei gwmni ei daro gan y dirwasgiad yn y 1920au. Roedd Lewis o Lerpwl wedi ei brynu yn 1938. Heddiw mae’r diwydiant archebion drwy’r post byd-eang yn werth tua £75 biliwn.
Rhieni’n cefnogi eu plant
Roedd fy ymweliad ag Eisteddfod yr Urdd yn dod i ben a chefais fy nghyfweld gan Newyddion S4C a Radio Cymru. Yr hyn roeddwn i wir yn ei garu am Eisteddfod yr Urdd oedd bod yna rieni yno oedd ddim yn siarad Cymraeg, ond eu bod nhw’n gefnogol iawn o’u plant Cymraeg eu hiaith, ac yn edrych mor falch ohonyn nhw. Ac am filltiroedd, gyrrais heibio cymaint o arwyddion y tu allan i gartrefi, ffermydd, siopau a busnesau yn dymuno ‘pob lwc’ i’r plant yn yr Eisteddfod. Hyfryd!