Wrth iddi deithio i Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni roedd Irram Irshad wedi penderfynu crwydro Canolbarth Cymru – ardal nad ydy hi wedi ymweld â hi o’r blaen. Mae Irram yn fferyllydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n dysgu Cymraeg ac yn caru hanes. Dyma ran un ei cholofn…
Cefais wahoddiad i Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni gan fy mod yn ysgrifennu straeon plant ar gyfer eu cylchgrawn Cip.
Roedd yr Urdd eisiau dathlu dysgwyr sy’n defnyddio eu Cymraeg. Wrth gwrs, gan fod mod i’n mynd i yrru’r holl ffordd i Ganolbarth Cymru o Gaerdydd, yna roedd rhaid aros ychydig ddyddiau. Roeddwn i eisiau archwilio’r ardal hon. Doeddwn i ddim wedi ymweld â hi o’r blaen (heblaw am daith bws i Gastell Powys). Gadawais i Gaerdydd ar hyd yr A470 yn yr haul, gan fwynhau’r golygfeydd hyfryd trwy Fannau Brycheiniog, Llanfair-ym-Muallt a thu hwnt.
Neuadd Gregynog
Y stop cyntaf oedd Neuadd Gregynog. Er bod y Neuadd wedi bod ar y safle hwn ers y 12fed ganrif, mae’r tŷ presennol yn dyddio o’r 1800au. Yn anffodus nid yw’r Neuadd ar agor i’r cyhoedd (mae’n cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer cynadleddau a phriodasau), ond mae ei gerddi hardd ar agor.
Cafodd y Neuadd bresennol ei hadeiladu yn y 1840au gan Henry Hanbury-Tracy. Roedd e’n dipyn o arloeswr wrth ddefnyddio concrit ar gyfer adeiladu. Adeiladodd y bythynnod, ffermdai acysgol yn Nhregynon hefyd. Mae Gregynog yn dal i gadw rhannau o’r tŷ gwreiddiol o’r 1600au.
Roedd y chwiorydd Davies, Gwendoline a Margaret, yn byw yno o 1924. Wyresau David Davies o Landinam oedden nhw. Roedd e’n un o’r dynion cyfoethocaf yng Nghymru. Roedd y chwiorydd wedi troi Gregynog yn ganolfan bwysig ar gyfer cerddoriaeth a’r celfyddydau. Dw i wedi gweld y gweithiau celf roedden nhw wedi casglu, sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r casgliad yn cynnwys artistiaid fel Renoir, Monet a Cezanne. Mae gwyliau cerddorol a chynadleddau gwleidyddol wedi cael eu cynnal yn y Neuadd. Dechreuodd Gwasg Gregynog yma, gan ddod yn gyhoeddwr blaenllaw ym Mhrydain. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel llawer o dai crand, cafodd Gregynog ei ddefnyddio gan y Groes Goch fel cartref gwella. Bu farw Gwendoline yn 1951, a Margaret yn 1963, gan adael yr ystâd i Brifysgol Cymru.
Trefaldwyn
Y stop nesaf oedd tref farchnad hardd Trefaldwyn, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Doeddwn i ddim wedi gwisgo’n addas i gerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa, ac roedd Amgueddfa’r Old Bell ar gau (roedd hi’n Ŵyl y Banc olaf mis Mai!). Felly, gadewais fy nghar gyferbyn â Neuadd y Dref a mynd i fyny’r bryn serth iawn at adfeilion Castell Trefaldwyn sy’n dyddio nôl i’r 13eg ganrif. Cefais fy nghyfarch gan olygfeydd hyfryd o’r castell. Cafodd ei adeiladu yn ystod teyrnasiad Harri III fel amddiffynfa frenhinol yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Tywysog Gwynedd. Roedd y castell wedi goroesi ymosodiadau gan Llywelyn yn 1228 a 1231.
Neuadd Dolforwyn
Neuadd Dolforwyn oedd y gwesty hyfryd lle’r oeddwn i’n aros – am berl o adeilad! Mae’r rhannau hynaf o’r plasty rhestredig Gradd II yn dyddio o gyfnod y Tuduriaid. Mae’r brif ran yn dyddio o’r 1800au. Mae golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Hafren a, gerllaw, mae adfeilion Castell Dolforwyn. Dyma’r castell olaf i gael ei adeiladu gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1273 (ŵyr Llywelyn Fawr).
Adeiladwyd prif dŷ Neuadd Dolforwyn mewn arddull Gothig tua 1830 gan John Pryce. Roedd e’n ficer Betws Cedewain gerllaw. Yn y 1500au, roedd Ystâd Dolforwyn yn eiddo i’r teulu Devereux. Yn 1601, daeth mab ieuengaf Walter Devereux, Edward, yn Aelod Seneddol.
Ym 1922, cafodd yr Ystâd ei chwalu a’r ffermdai a thiroedd eu gwerthu. Mae’r Neuadd wedi bod yn westy gwely a brecwast ers hynny.
Rheilffordd Gul Y Trallwng a Llanfair Caereinion
Mae’r rheilffordd hon ym Mhowys yn rhedeg tua’r dwyrain o orsaf Sgwâr y Gigfran y Trallwng am 8.5 milltir. Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r rheilffordd yn 1901. Gyda chefnogaeth Iarll Powys, cafodd y rheilffordd ei ariannu gyda chronfeydd cyhoeddus, tanysgrifiadau a thir gan dirfeddianwyr lleol. Rheilffordd y Cambrian oedd yn gweithredu’r lein. Roedd y trên wedi cludo’r teithwyr cyntaf ym mis Ebrill 1903.
Roedd y cwmni’n cael problemau ad-dalu benthyciadau ac, yn 1922, cafodd Rheilffordd y Cambrian ei uno gyda Rheilffordd Great Western, fel nifer o reilffyrdd eraill yng Nghymru. Roedd nifer y teithwyr trên wedi gostwng oherwydd gwasanaeth bws – oedd, yn eironig, yn berchen i GWR.
Daeth y gwasanaeth trên i ben ym 1931. Roedd wedi parhau i gludo nwyddau tan 1956.
Roedd llawer o wirfoddolwyr wedi brwydro i achub y rheilffordd fel safle treftadaeth. Fe wnaethon nhw adfer rhan o’r llinell, a chael nifer o gerbydau o Ewrop.
Yn 1963, dechreuodd y gwasanaeth i deithwyr rhwng Llanfair Caereinion a Chastell Caereinion. Cafodd y rheilffordd ei ymestyn i bentref bach Sylfaen erbyn 1972. Yn 1974 fe wnaethon nhw brynu’r rheilffordd oddi wrth British Rail am £8,000 (tua £85,000 heddiw). Fe wnaethon nhw gwblhau ymestyn y lein i’r Trallwng yn 1981.
Yn ail ran fy ngholofn wythnos nesaf, fe fydda’i yn ymweld â’r Drenewydd.