Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n caru hanes. Mae ei cholofn yn edrych ar rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Y tro yma, mae hi’n dweud hanes Crochendy Nantgarw oedd yn gwneud y porslen “gorau yn y byd”…
Mae Crochendy Nantgarw ychydig filltiroedd o ogledd Caerdydd ac mae’n safle llawn hanes. O’r eiliad dych chi’n cerdded trwy ddrws ffrynt Tŷ Nantgarw, dych chi’n gweld cypyrddau yn llawn platiau, cwpanau, jygiau a hambyrddau hardd.
Mae Nantgarw yn enwog am ei phorslen. Dyma’r unig waith porslen o’r 19eg canrif gynnar sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig. Mae porslen Nantgarw wedi cael ei ddisgrifio fel y gorau yn y byd.
Cefais daith dywys gan Celia, sy’n siarad Cymraeg ac sy’n un o 20 o wirfoddolwyr sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Crochendy Nantgarw. Yr ymddiriedolaeth sy’n cynnal yr amgueddfa annibynnol hon.
Cafodd y tŷ gwreiddiol ei adeiladu yn y 1790au gan Edward Edmunds. Roedd ei gartref ym Mhenrhos, ac yn dal i fod yno ger Canolfan Arddio Caerffili ond wedi ei foderneiddio ers hynny.
Camlas Morgannwg
Adeiladwyd Tŷ Nantgarw ar lan Camlas Morgannwg. Cafodd y gamlas ei hadeiladu gan berchnogion y gweithfeydd haearn wedi talu am y gamlas. Roedd yn ffordd o gludo deunyddiau i Ferthyr a nwyddau oddi yno, i lawr tuag at Aber Afon Hafren yng Nghaerdydd. Wedyn roedd yn cael ei gludo mewn llongau ledled y byd.
Cafodd y gamlas ei hagor yn 1795. Roedd yn mynd trwy Dongwynlais, Ffynnon Taf, Nantgarw, Pontypridd, gan hollti yn Abercynon. Roedd un gangen yn mynd i fyny i Aberdâr, y llall heibio Aberfan i Ferthyr. Y gamlas oedd y ffordd bwysicaf o gludo nwyddau nes creu Rheilffordd Dyffryn Taf. Dim ond yn 1951 y caeodd rhan olaf y gamlas. Nawr, mae’n nant fechan a dim ond rhai olion sydd ar ôl. Gallwch weld model o Gwch Camlas Sir Forgannwg yn yr amgueddfa.
William Billingsley
Roedd Nantgarw yn lle delfrydol i sefydlu crochendy oherwydd y gamlas, y lleoliad ym maes glo de Cymru, a digonedd o lafur yn yr ardal. Dyna pam roedd y peintiwr a chynhyrchydd porslen William Billingsley wedi cael ei ddenu yma. Cafodd William Billingsley ei eni yn Derby a datblygu ei sgiliau mewn porslen yn ffatri Royal Derby. Roedd Billingsley yn dylunio a chynhyrchu porslen o ansawdd uchel. Roedd wedi’i addurno gyda dyluniadau o flodau lliwgar, a’r rhosyn oedd ei ffefryn. Mae’r ‘Prentice Plate’ yn dal i gael ei arddangos yn Amgueddfa Derby. Roedd yn cael ei ddefnyddio i osod safon ar gyfer prentisiaid.
Aeth Billingsley ymlaen i weithio i Royal Worcester. Bu’n rhaid iddo lofnodi cytundeb i beidio â dweud wrth neb arall sut roedd yn gwneud ei borslen cain. Ond nid oedd unrhyw beth i’w atal rhag gwneud porslen ei hun. Roedd ei fab yng nghyfraith, Samuel Walker, yn grochenydd ac yn adeiladu odynnau. Roedden nhw wedi gadael Caerwrangon, a newidiodd Billingsley ei enw i Beeley. Mae’n bosib ei fod wedi gwneud hyn er mwyn osgoi cael ei ganfod. Fe sefydlodd Crochendy Nantgarw yn 1813.
William Weston Young
Roedd William Weston Young yn entrepreneur a oedd wedi buddsoddi yng Nghrochendy Nantgarw. Roedd y gwaith porslen yn cael ei werthu yn bennaf i bobl gyfoethog yn Llundain, lle’r oedd pobl yn mwynhau te prynhawn. Byddai asiantau yn Llundain yn comisiynu porslen gwyn gan Billingsley ac yna’n comisiynu eraill i’w addurno yn arddull gwledydd Ewrop.
Nid oedd yn hawdd gwneud y porslen cain oherwydd pan oedd yn cael ei danio yn yr odyn, byddai hyd at 90% o’r darnau porslen yn torri. Roedd hyn yn golygu bod y costau o gynhyrchu’r porslen yn uchel. Ar ôl chwech mis aeth Billingsley a Walker i weithio yng Nghrochendy Abertawe. Pan wnaethon nhw ddychwelyd i Nantgarw, fe gawson nhw ychydig o flynyddoedd cynhyrchiol. Roedd tair odyn – dych chi’n gallu gweld dwy ohonyn nhw ar y safle o hyd. Mae hefyd olion odyn ddeulawr.
Oherwydd y problemau ariannol, roedd Billingsley a Walker wedi gadael Nantgarw yn 1820 a symud i Coalport. Roedd yn ffatri fawr oedd yn gwneud porslen enwog ledled y byd. Bu farw Billingsley yn 1828 a chafodd ei gladdu yn Kemberton, ger Coalport.
Thomas Pardoe
Roedden Billingsley a Walker wedi gadael y brydles i Nantgarw ar ôl, ynghyd â miloedd o ddarnau o borslen oedd heb ei addurno. Roedd William Weston Young wedi cymryd drosodd ac wedi gwahodd Thomas Pardoe, yr artist o Grochendy’r Cambrian yn Abertawe, i addurno’r porslen. Roedd e’n adnabyddus am beintio blodau ac adar yn bennaf. Ond nid oedd y gwydredd gystal ag un Billingsley a’i rysáit gyfrinachol. Roedd ansawdd y gwaith wedi dirywio, a daeth y busnes i ben erbyn 1823. Roedd Thomas Pardoe wedi aros gyda Nantgarw nes ei farwolaeth yn 1823.
William Henry Pardoe
Ym 1833, roedd William Henry Pardoe, mab Thomas, wedi cymryd drosodd ac yn cynhyrchu poteli a llestri pridd, a phibellau tybaco clai. Parhaodd y busnes am 90 mlynedd arall, gan gyflogi tua 30 o bobl, a chynhyrchu 10,000 o bibellau’r wythnos. Roedd wedi cau yn 1920 oherwydd bod sigaréts wedi dod yn boblogaidd ac wedi disodli’r pibellau clai. Roedd yr olaf o deulu Pardoe wedi gadael Nantgarw yn y 1970au.
Amgueddfa
Prynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Taf-Elai y safle adfeiliedig yn 1989 ac adfer yr adeiladau a’r odynnau. Cafodd ei agor yn 1991 fel amgueddfa. Cafodd y safle ei roi yng ngofal yr Ymddiriedolaeth bresennol yn 2007. Mae’r amgueddfa yn cael ei defnyddio ar gyfer stiwdios artistiaid, arddangosfeydd, dosbarthiadau crefft a digwyddiadau arbennig.
Mae llawer i’w weld yn yr amgueddfa – gallwch gael cacen hyfryd yn yr ystafell de, gweld Gardd Rosod Billingsley, a’r cychod gwenyn lle mae Nantgarw yn gwneud mêl ei hunain i’w werthu.
Mae Nantgarw unwaith eto yn gwneud porslen o’r radd flaenaf i rysáit wreiddiol Billingsley o dros 200 mlynedd yn ôl. Roedd tair prifysgol, arbenigwyr a chrochenwyr wedi cael darnau o borslen wedi torri er mwyn ceisio darganfod y rysáit wreiddiol. Mae cwsmeriaid nawr yn gallu comisiynu darnau newydd o’r porslen. Gallwch hefyd brynu gemwaith sydd wedi’i wneud o ddarnau o borslen gwreiddiol Billingsley sydd wedi torri. Mae porslen gwreiddiol Nantgarw yn gwerthu am symiau sylweddol ar eBay!
Efallai bod Crochendy Nantgarw yn lle bach, ond mae’n gadael argraff enfawr. A chofiwch eu bod bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg!
https://nantgarwchinaworksmuseum.co.uk