Mae Pawlie Bryant yn byw yng Nghaliffornia ac wrth ei fodd gyda phêl-droed. Pan glywodd bod CPD Wrecsam yn chwarae Bournemouth yn Santa Barbara, aeth draw i wylio’r gêm… gyda’i het fwced a’i gamera wrth gwrs!
Dw i’n dwlu ar bêl-droed ers fy mhlentyndod.
Roedd fy nhad a fi’n arfer mynd i weld Watford FC yn y saithdegau, pan o’n nhw yn y bedwaredd adran. Felly dw i’n deall sut oedd pobl Wrecsam yn teimlo cyn i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, brynu’r tîm yn 2020 i ddechrau pennod newydd.
O dan berchnogaeth Elton John – ddegawdau yn ôl – dringodd Watford o’r Bedwaredd Adran i’r Adran Gyntaf (yr Uwch Gynghrair yn ddiweddarach), a chwarae yn Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith. Gobeithio y bydd Rob a Ryan yn dod â’r un llwyddiant i CPD Wrecsam!
Yn ffodus, mae’r tîm wedi cael llwyddiant mawr hyd yn hyn.
Cafodd Wrecsam eu dyrchafu o’r Gynghrair Genedlaethol i Gynghrair 2 ar ddiwedd tymor 2022-2023 – canlyniad anhygoel ar ôl dim ond dwy flynedd o dan berchnogaeth newydd, gyda rheolwr newydd yn Phil Parkinson, a sawl seren newydd ar y cae. Yna ar ddiwedd tymor 2023-2024 eleni, cafodd Wrecsam eu dyrchafu eto, y tro yma i Gynghrair 1.
Os gallan nhw gael eu dyrchafu i’r Bencampwriaeth yn 2025, basai’n gosod record newydd ar gyfer dyrchafiadau yn olynol – gyda dim ond un dyrchafiad mwy (er un anodd) i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.
Cyfnod cyffrous i bêl-droed yn Santa Barbara
Felly, pan welais i gyhoeddiad y Wrex Coast Tour 2024 gan CPD Wrecsam ym mis Mai – gyda’r gêm gyntaf yma yn Santa Barbara – ro’n i wrth fy modd. Roedd y gêm yn erbyn AFC Bournemouth (tîm Uwch Gynghrair) yn Harder Stadium ar gampws Prifysgol Califfornia Santa Barbara (UCSB), fy alma mater. Yn ffodus ro’n i’n gallu cael pàs y wasg er mwyn tynnu lluniau ac ati.
“Tref bêl-droed” yw Santa Barbara, gyda thimau prifysgol llwyddiannus a thywydd perffaith ar gyfer gemau drwy’r flwyddyn. Dim syndod bod gêm Wrecsam v Bournemouth wedi gwerthu allan. Mae’r stadiwm yn gallu cynnal 13,000 o bobl, a chafodd ei llenwi gyda 10% o boblogaeth Santa Barbara!
Mae hyd yn oed tîm pêl-droed proffesiynol Santa Barbara ar y gweill – y Santa Barbara Sky. Mae wedi’i ariannu gan gyn-brif swyddog gweithredol Lerpwl FC, Peter Moore, sy’n dod o Lerpwl, a thrigolion Santa Barbara. Am gyfnod cyffrous i bêl-droed yn Santa Barbara!
“Shw’mae, Rob?”
Ro’n i’n gobeithio siarad ychydig o Gymraeg yn y gêm wrth gwrs. Ond yn anffodus doedd dim siaradwyr Cymraeg o gwmpas… nes i Rob McElhenney gerdded heibio’r safle ffotograffiaeth. “Shw’mae, Rob – sut dych chi?” gofynnais. Gawson ni sgwrs am funud – am ddysgu Cymraeg, y gêm, ac ynganiad Rob o “Llanfairpwll…” yn y gyfres deledu Welcome to Wrexham. Yna roedd yn amser i’r gêm ddechrau.
Dechreuodd y gêm ychydig ar ôl 4yp – roedd yn gynnes a’r haul yn gwenu.
Roedd y chwarae’n ofalus i ddechrau, gyda’r ddau dîm yn addasu i’w gêm gyntaf yn yr haf, y gwres, a’r lleoliad anghyfarwydd. Roedd y ddau dîm yn chwarae heb un o’u sêr. Roedd Paul Mullin (Wrecsam) a Tyler Adams (Bournemouth) yn absennol ar ôl cael llawdriniaethau yn ddiweddar. Er gwaetha hynny, roedd llawer o chwarae da a chyffrous i fyny ac i lawr y cae.
Cyn hanner amser fe sgoriodd Wrecsam o gic gornel gan James McClean gael ei phenio gan amddiffynnwr Bournemouth James Hill i mewn i’w gôl ei hun. Ar ôl yr egwyl, sgoriodd Bournemouth yn ystod deng munud cyntaf yr ail hanner pan gafodd cic feisicl gan Phillip Billing ei phenio i mewn gan Marcos Senesi.
Gwelon ni ymdrech gref ar y cae gan lawer o chwaraewyr Wrecsam gan gynnwys George Dobson, Jack Marriott, Andy Cannon, Steven Fletcher, a’r golwr Arthur Okonkwo wnaeth arbed sawl ergyd yn berffaith. Roedd sawl chwaraewr Bournemouth yn edrych yn arbennig o dda, sef Phillip Billing, Alex Scott, Marcos Senesi, a James Hill.
Ar ôl y gôl gyfartal yn gynnar yn yr ail hanner, newidiodd rheolwr Bournemouth Andoni Iraola sawl chwaraewr ar yr awr – ac edrychodd Bournemouth yn fwy egnïol am sbel. Yna yn y 65ain munud, newidiodd Phil Parkinson bob un o 11 chwaraewr Wrecsam ar y cae ar unwaith. Roedd y lein-yp newydd yn cynnwys gemau cyntaf i Lewis Brunt, Sebastian Revan, Callum Burton, a dychweliad o anafiadau i Anthony Forde. Bu Wrecsam yn edrych yn gryf tan ddiwedd y gêm gydag ymosodiadau addawol gan Steven Fletcher, Luke Bolton, ac Ollie Palmer – ond doedden nhw ddim wedi sgorio eto.
Roedd yn gêm gyfartal 1-1, ond yn ganlyniad ardderchog i Wrecsam yn erbyn tîm dwy gynghrair yn uwch. Roedd yn ddigwyddiad anhygoel yn Santa Barbara.
Het fwced
Wrth i fi fynd i gynhadledd y wasg yn y ganolfan gyfryngau ar ôl y gêm, gofynnodd ffotograffydd y BBC i mi mewn acen Gymreig: “Where did you get that Wales bucket hat?” Atebais i: “Yn Wrecsam, wrth gwrs!”
Cafodd ei fagu yng Nghymru, felly sgwrsion ni yn Gymraeg nes i’r cyfweliadau ddechrau.
A dwedodd fy ffrind newydd: “Mae dy Gymraeg yn wych, Pawlie – chwarae teg!” Ro’n i wrth fy modd… eto.
Nawr, dw i’n dwlu ar bêl-droed hyd yn oed yn fwy.