Gwelais i ddwy arddangosfa gelf anhygoel eleni gan yr artist David Robinson – Gofal Ysbyty: Myfyrdodau personol mewn lluniau a geiriau, ac wedyn Hwyl Glan y Môr.
Yn Gofal Ysbyty, ro’n i’n edmygu gallu David i gyfuno celf deimladwy a phrofiadau personol gyda neges o obaith ar yr un pryd. Roedd y gelf a’r straeon yn llawn empathi a charedigrwydd. Roedd hefyd yn ddiddorol iawn i weld pa mor dda gallai peintiadau a phrintiau leino weithio ochr yn ochr. Wrth i fi edrych ar Hwyl Glan y Môr, ces i fy nharo gan ba mor dreiddgar – swreal, hyd yn oed – y gallai cyfres o beintiadau hwyliog o’r traeth fod.
Gan fy mod yn byw yng Nghaliffornia, gwelais y ddwy arddangosfa ar-lein — ond daeth ysbryd y gelf drosodd yn hollol glir.
Mae celf David yn cael ei arddangos yn ne Cymru, ac mae gyda fe sioeau newydd dros yr haf. Dim syndod bod David wedi ennill pum gwobr ers 2014! Ar ôl dod i’w adnabod yn fy nosbarth Cymraeg, ro’n i eisiau dysgu mwy am David a’i gelf. Mae e wedi ateb fy nghwestiynau i Lingo360…
Diolch am siarad â Lingo360, David! Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?
Ces i fy ngeni yng Nghaer, a’m magu yng Ngogledd Sir Gaerhirfryn – ardal brydferth â golygfeydd o Fae Morecambe ac Ardal y Llynnoedd. Er mod i dros y ffin, cawson ni wyliau hyfryd yng ngogledd Cymru pan o’n i’n ifanc, gan gynnwys sawl ymweliad â fferm Llyndy Isaf [fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri], sydd wedi dod yn enwog erbyn heddiw.
Pryd wnaethoch chi sylweddoli eich bod eisiau dilyn gyrfa yn y byd celf?
Roedd diddordeb gyda fi ers yn blentyn. Gwnes i Lefel A mewn Celf, ond roedd ofn arna’i ddilyn y llwybr hwnnw, felly penderfynais astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn y brifysgol. Deng mlynedd wedyn, ro’n i’n gweithio mewn swyddfa, a gofynnodd fy mhartner Mark, ‘Pam dwyt ti ddim yn hapus?’ Esboniais fy mod i’n gweld eisiau arlunio, rhywbeth ro’n i’n hoffi ei wneud yn y gorffennol, a dyma fe’n awgrymu: ‘Beth am chwilio am swydd rhan amser? Cer amdani!’ Diolch i Mark am agor fy llygaid, mae wedi cefnogi fi trwy’r holl antur.
Beth ddigwyddodd wedyn?
Wedi ffeindio swydd rhan amser, a byw’n Swindon ar y pryd, dechreuais i beintio yn yr awyr agored (‘plein air’), yn arbennig golygfeydd o’r dref o lefel uchaf y maes parcio lleol! Roedd troli siopa gyda fi i gario fy holl offer peintio. Nawr ac yn y man byddai heddwas neu sglefrfyrddwyr ifanc yn ymweld i gadw llygad arna’i, a ches i adborth gwerthfawr ganddyn nhw! Mae ymarfer ar ben y maes parcio, a’r sgyrsiau yna wedi rhoi’r hyder i fi gario ymlaen.
Pa gyfryngau dych chi’n defnyddio yn eich gwaith?
Yn y dechrau ro’n i’n defnyddio paent acrylig, ond ar ôl i fi addasu i baent olew, doedd dim troi’n ôl! Does dim byd tebyg i baent olew, sydd yn cynnig cymaint o bosibiliadau creadigol – gweithio’n gyflym neu’n araf, dewis eang o liwiau i’w darganfod, heb sôn am y traddodiad o beintio mewn olew. Dw i’n hapus i arbrofi gyda phrintio ar leino nawr ac yn y man. Tasai amser, baswn i’n hoffi trio ysgythru rywbryd.
Oes gynnoch chi stiwdio gelf?
Mae gyda fi ystafell fach yn yr atig uwchben siop argraffu ym Mhorthcawl. Mae’n lle perffaith i ganolbwyntio a gweithio, ar wahân i’n fflat a’r bywyd bob dydd.
Faint o amser gymerodd hi i chi greu’r printiau leino, peintiadau, a straeon cleifion ar gyfer Gofal Ysbyty?
Mae’r gyfres yna’n mynd yn ôl i 2018, pan o’n i’n glaf yn yr ysbyty am y tro cyntaf. Wnes i barhau i weithio arni trwy’r cyfnod clo, pan ges i lawdriniaeth yn yr un ysbyty yn 2020. Dwy flynedd o leia’ felly i wneud y gwaith. Wedi gwneud y printiau, roedd angen archwilio sawl syniad mewn paent olew clasurol – ac roedd y cyfnod clo wedi helpu fi i ganolbwyntio ar hynny.
Pa effaith gafodd Gofal Ysbyty ar gleifion eraill, a phobl sy’n gweithio yn yr ysbyty, ac ati?
Wnes i gadw mewn cyswllt â’r llawfeddyg ac un o’r nyrsys oedd wedi gofalu amdana i. Ro’n nhw’n garedig iawn ac wedi f’annog gyda’m gwaith. Fel rhan o’r project gofynnais i bobl ro’n i’n eu nabod i rannu eu straeon nhw o ofal ysbyty, ac mae eu geiriau nhw yn cael eu harddangos ar bwys y lluniau. Mae’r geiriau a lluniau yn bwerus – ac mae adborth gan bawb wedi bod yn bositif. Maen nhw i’w gweld yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar hyn o bryd, fel rhan o’u Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.
Pa beintiad oedd yr anoddaf – a’r hawsaf – i orffen ar gyfer Hwyl Glan y Môr?
Roedd y peintiad ‘Trochi llawn’ yn anodd iawn. Wnes i newid y lliwiau sawl gwaith, ac wedyn ces i drafferth gyda’r tonnau, a’r pump menyw! ‘Ymestyn allan’ oedd yr hawsaf – wnes i lot o waith paratoi, gan gynnwys astudiaethau o’r dwylo a’r wynebau.
Unrhyw straeon diddorol neu ddoniol yn ystod y broses o greu eich celf?
Pob tro dw i’n gweithio tu allan, bydd rhywun yn gofyn, ‘os af i draw ‘na, gaf i fod yn y llun?’ Fel arfer dw i’n ateb, ‘Cewch, os gallech chi sefyll yn llonydd am awr neu ddwy!’
Ydych chi’n gweithio ar unrhyw ddarnau newydd?
Ydw! Dw i’n brysur iawn yn paratoi ar gyfer sawl arddangosfa. Bydd sioe dros dro (’pop-yp’) yn Eglwys Priordy Ewenni ar y penwythnos (Gorffennaf 13-14). Wedyn cafodd un o’m peintiadau (‘Nofwyr y wawr’) ei derbyn ar gyfer yr arddangosfa ‘Y Lle Celf’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, sy’n dechrau ar Awst 3. Bydd sioe fawr unigol gyda fi yn Hen Neuadd y Bont-faen mis Medi 3-26 – gyda’r lansiad ar y nos Iau (Medi 5), rhwng 6-8yh. Mae croeso cynnes i bawb alw draw! Bydd mwy o fanylion ar fy ngwefan a’r cyfryngau cymdeithasol (@davidrobinsonartist).
davidrobinsonartist.com
Mae fideo Gofal Ysbyty yma
Mae fideo Hwyl Glan y Môr yma