Pan o’n i yng ngogledd Cymru’r llynedd, fe wnes i yrru llawer o filltiroedd.
Ar ôl i fi ddod yn gyfforddus yn “eistedd ar y dde” a “gyrru ar y chwith” (mwy am hyn rywbryd eto!), des i’n hyderus yn gyrru o gwmpas drwy’r dydd i ymweld â chymaint o lefydd a phosib.
Pan o’n i’n gyrru o Sir Gâr i Wynedd yn ystod trydedd wythnos fy nhaith, ro’n i ar frys i gyrraedd fy llety ym Mhorthmadog. Ro’n i’n hwyr. Ond ar y ffordd, gwelais arwydd i Gastell Harlech, a gallwn i ddim helpu fy hun – fel tasai’r car yn llywio ei hun i’r castell yn awtomatig! Cyrhaeddais Harlech tuag awr cyn amser cau, felly prynais docyn a chopi o lyfryn swyddogol Cadw (yn Gymraeg wrth gwrs), a cherddais dros y bont droed i weld y castell.
Cafodd Castell Harlech ei adeiladu rhwng 1282 a 1289 gan Edward I. Mae’r castell mewn lleoliad gogoneddus yng Ngwynedd, ar hyd yr arfordir. Dros y canrifoedd roedd Castell Harlech wedi chwarae rhan bwysig mewn llawer o frwydrau a rhyfeloedd. Gwnaeth y castell wrthsefyll ymosodiad gan Madog ap Llywelyn ar ddiwedd y 13eg ganrif, ond cafodd Harlech ei gipio gan Owain Glyndŵr mwy na chanrif yn ddiweddarach yn 1404. Cartref a phencadlys militaraidd Glyndŵr oedd Castell Harlech am bum mlynedd, cyn cael ei gipio yn ôl gan fyddin y Saeson yn 1409.
Branwen a’r Mabinogi
Yn ôl hanes lleol, mae Castell Harlech yn cael ei gysylltu â’r chwedl Branwen – merch Llŷr a Penarddun. Branwen ydy prif gymeriad Ail Gainc y Mabinogi. Yn y chwedl, roedd Bendigeidfran (brawd Branwen) yn eistedd ar garreg wrth y môr yn Harlech pan welodd longau Matholwch (Brenin Iwerddon) yn agosáu. Pan gyrhaeddodd Matholwch i ofyn am gael priodi Branwen, cytunodd Bendigeidfran – cyn gofyn i Branwen! Doedd dim llawer o hawliau merched yn ystod yr Oesoedd Canol, am wn i. O, wel…
O’r 18fed ganrif ymlaen, daeth Castell Harlech yn boblogaidd gydag artistiaid gan gynnwys John Cotman, Henry Gastineau, Paul Sandby, J. M. W. Turner, a mwy. Yn 1969, cafodd y castell ei drosglwyddo i ofal Cadw. Maen nhw’n dal i’w reoli, ei gynnal a chadw, ac yn gwneud gwaith adnewyddu. Daeth Castell Harlech yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986.
Yn ôl UNESCO – ynghyd a Chastell Biwmaris, Castell Conwy, a Chastell Caernarfon – Castell Harlech yw un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth y 13eg a’r 14eg ganrif. A dw i’n gallu gweld pam. Mae’n gastell arbennig, mewn lle arbennig.
Mewn geiriau eraill, mae’n werth mynd allan o’ch ffordd i’w weld!