“Os byddwch chi’n ei adeiladu, dôn nhw.”

Dyna oedd y geiriau ddaeth o’r cae ŷd gafodd eu sibrwd i Ray Kinsella yn y ffilm Field of Dreams yn dweud wrtho am wneud cae pêl-fas ar ei fferm yn Iowa. Mae Ray yn adeiladu’r cae, yna mae chwaraewyr o’r gorffennol yn ymddangos i ymarfer yno: “Shoeless” Joe Jackson, Archie “Moonlight” Graham ac, yn y pen draw, John Kinsella – tad Ray – a fu farw flynyddoedd ynghynt.

Ond mae’r syniad yn dyddio’n ôl milenia.

Mynedfa Castell Coch

Uwchben pentref Tongwynlais yn ne Cymru, mae Castell Coch yn sefyll ynghanol coedwig ffawydd prydferth. Fel rhywbeth o stori dylwyth teg, mae’r castell Diwygiad Gothig hwn yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ac mae’r ymwelwyr hyn yn dewis Castell Coch fel eu “hoff adeilad yng Nghymru” yn rheolaidd.

Yn ystod fy ymweliad, dysgais i fod hanes hir a throellog gan Gastell Coch.

Cafodd y castell cyntaf ei adeiladu ar y safle yn 1081 gan y Normaniaid, er mwyn amddiffyn Caerdydd rhag ymosodiad. Roedd fel tasai’r coed yn sibrwd wrthyn nhw: “Rhaid i chi ei adeiladu, rhag ofn bod y goresgynwyr yn dod.” Cafodd y castell cyntaf hwn ei adael yn fuan ar ôl hynny.

Bron 200 mlynedd yn ddiweddarach, ailddefnyddiodd “Yr Iarll Coch” Gilbert de Clare y safle ar gyfer adeilad newydd, wedi’i adeiladu rhwng 1267 a 1277. Mae’n debyg bod y castell yma wedi cael ei ddinistrio yn ystod y Gwrthryfel Cymreig yn 1314.

Byddai hi ddim wedi bod yn hawdd ymosod ar Gastell Coch

Ar ôl mwy na 400 mlynedd, yn 1760 cafodd adfeilion y castell eu caffael gan John Stuart, 3ydd Iarll Bute, fel rhan o gytundeb priodas. Yn 1848, cafodd y castell ei etifeddu gan John Crichton-Stuart, 3ydd Marcwis Bute. Cyflogodd Crichton-Stuart y pensaer William Burges i ail-adeiladu’r castell yn yr arddull Fictoraidd, fel stad wledig ar gyfer gwyliau’r haf. Cafodd y castell ei orffen yn 1891. Plannodd Crichton-Stuart winllan a chynhyrchodd win yno tan y Rhyfel Byd Cyntaf, ond fel arall doedd e ddim yn defnyddio’r castell yn aml.

Yn 1950, gosododd ŵyr Crichton-Stuart y castell yng ngofal y llywodraeth. Heddiw – fel llawer o gestyll o gwmpas Cymru – mae Castell Coch yn cael ei reoli gan Cadw.

 Ymwelais â’r castell gyda fy ffrind, Rachel, o’r dosbarth Cymraeg, ar ôl i ni gerdded llwybr arfordir Bae Dwnrhefn gyda’i theulu. Roedden ni wedi rhyfeddu at y bensaernïaeth, addurniadau’r ystafelloedd, a’r naws gyffredinol y tu mewn ac o gwmpas y castell. Mae llawer i weld a dysgu yng Nghastell Coch, felly mae’n werth mynd yno os dych chi yn yr ardal. Profiad anhygoel.

Y parlwr
Y Neuadd Wledda

 Wrth i ni yrru’n ôl i dŷ Rachel, roedden ni’n chwerthin am sut roedd hanes Castell Coch yn ein hatgoffa o’r ffilm Monty Python and the Holy Grail, lle mae tad y tywysog ifanc yn disgrifio ei ymdrechion i ailadeiladu “Swamp Castle” – dim ond i’w wylio’n suddo i’r gors dro ar ôl tro!

Cymerodd lot o waith (ac amser) i greu Castell Coch fel ‘dyn ni’n ei nabod heddiw, a diolch byth am hynny! Yn y diwedd, mae gyda ni gastell Gothig Fictoraidd arbennig.

Dros y canrifoedd, fe wnaethon nhw ei adeiladu.

A daeth pobl.