Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n siarad am brosiect newydd mae o wedi dechrau i gasglu enwau ledled Eryri sydd ddim yn ymddangos ar fapiau modern… 


Mae miloedd ar filoedd o enwau lleoedd Cymru i’w gweld ar y map, yn enwau clogwyni, nentydd, creigiau ac yn y blaen. Yn anffodus, oherwydd diffyg lle, ac efallai, mewn ambell achos, diffyg gwybodaeth, mae miloedd mwy o enwau sydd ddim yn ymddangos ar fapiau modern. Edrychwch ar unrhyw fap ac fe welwch chi ryw nant, neu lôn, nad oes enw iddo. Ond mae enwau ganddyn nhw i gyd wrth gwrs, a diolch byth, yn aml iawn mae’r enwau wedi’u cadw yng nghof y bobl leol.

Dw i wedi dechrau prosiect newydd yn ddiweddar, ar y cyd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y prosiect yw casglu’r enwau hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi a’u hamddiffyn yn yr un ffordd â phob enw arall.

Rydyn ni wedi dechrau casglu nhw trwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau casglu enwau ledled Eryri, gan siarad â ffermwyr, bugeiliaid, wardeiniaid y Parc a’r Ymddiriedolaeth, a phobl leol eraill. Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynnal dau weithdy, un yn Nant Ffrancon, a’r llall ym Meddgelert, ac wedi casglu cannoedd o enwau.

Llyn Waun Bryn

Mae hyn wedi galluogi ni i lenwi’r llefydd gwag ar y map, a dangos bod llawer o enwau’n bodoli am lefydd yn yr ucheldir sydd ond yn ymddangos fel llinellau ar y map, os hynny. Uwchben Rachub yng Ngwynedd er enghraifft, ceir plas o’r enw Bryn Hall.

Mae gwaun ger y plas, o’r enw Gwaun Bryn, a dau lyn, Llyn Waun Bryn a Llyn Coch, sy’n gronbyllau.

Mae Llyn Coch yn uwch na Llyn Waun Bryn, ar lethrau Cwm Ocwm, ychydig o dan Pantiau’r Lladron.

Mae hen lwybr o’r enw Llwybr yr Offeiriad yn pasio rhwng y llynnoedd, gan fynd trwy Giât Madog a Bwlch y Mawn. Yr unig enw o’r rhestr uchod sy’n ymddangos ar y mapiau, hen neu fodern, yw Bryn Hall.

Llyn Coch

Erbyn i chi ddarllen y golofn yma, bydd tua 300 o’r enwau hyn wedi’u hychwanegu at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, a bydd rhagor yn cael eu hychwanegu maes o law. Gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yma, o dan Gweithdai Eryri: https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/placenames/search