Dach chi’n hoffi canu? Dach chi’n hoffi canu caneuon Cymraeg? Dach chi eisiau help i ddysgu’r geiriau?
Mae Ynyr Gruffudd Roberts yn gyfansoddwr/cynhyrchydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Roedd Ynyr wedi dechrau prosiect pop arbrofol o’r enw Popeth yn 2022. Fel rhan o’r prosiect mae’n gweithio gyda llawer o artistiaid newydd.
Mae gan Popeth lawer o fideos gyda geiriau ar y sgrin ar ei sianel YouTube.
Mae Ynyr yn dweud: “Mae’n ffordd wych o ymarfer eich Cymraeg – ac ymarfer eich canu!”
Mwynhewch!
Mae dolenni i’r fideos fan hyn: