Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig ysgoloriaeth i bobol ifanc sydd eisiau bod yn diwtor Cymraeg.
Mae’r Ganolfan eisiau i fwy o bobol ifanc fod yn diwtoriaid.
Bydd cwrs rhwng Gorffennaf 7-18, 2025, gyda gweithdai a chyfle i arsylwi dosbarthiadau Cwrs Haf Dysgu Cymraeg Prifysgol Caerdydd.
Roedd y cwrs wedi cael ei gynnal am y tro cyntaf yn 2022.
Macsen Brown
Roedd Macsen Brown wedi cwblhau’r cwrs yn 2022.
Nawr, mae e’n dysgu Cymraeg i oedolion ac yn gwneud gradd mewn Ieithoedd Modern a Chanoloesol.
Roedd e wedi gwneud blwyddyn dramor yn Siora ac Estonia yn 2022 a 2023.
“Dw i mor falch i mi wneud y cwrs Tiwtoriaid Yfory ’nôl yn 2022,” meddai.
“Do’n i erioed wedi ystyried bod yn diwtor Dysgu Cymraeg cyn hynny.”
“Roedd cyfle hefyd i ennill arian pan fo costau byw yn codi.”
Gwaith
Ar ddiwedd y cwrs, mae cyfle i’r myfyrwyr feddwl am gyfleoedd gwaith posib.
Roedd Macsen eisiau gweithio ym Mro Morgannwg, lle mae ei deulu’n byw.
Dechreuodd e ddysgu dosbarth Cymraeg ym mis Hydref 2022.
“Ro’n i’n dysgu un dosbarth yr wythnos,” meddai.
“Nawr, dw i’n dysgu dwy wers yr wythnos, ac wedi cael swydd fel tiwtor mewn coleg yn Llundain.
‘Gwaddol’
“Mae’n braf gweld gwaddol y cwrs, a chlywed hanes y criw sydd wedi bod arno yn y gorffennol,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Dyn ni angen cyflenwad cyson o dalent newydd, ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar y gwaith.”
Y dyddiad cau i wneud cais yw Ionawr 31.
Bydd y tiwtoriaid llwyddiannus yn cael gwybod erbyn diwedd mis Mawrth.