Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n caru hanes! Mae ei cholofn yn edrych ar rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Y tro yma, mae hi wedi bod ar daith i Aberystwyth ac wedi ymweld ag Amgueddfa Ceredigion yn y dref…

Yr olygfa dros Aberystwyth

Er fy mod i wedi cael fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd, y tro cyntaf i mi fynd i orllewin Cymru oedd yn yr haf y llynedd. Wnes i ymweld â sawl lle, a’r uchafbwynt oedd Aberystwyth.  Fe wnes i’r pethau twristaidd arferol – bwyta hufen iâ ar y traeth, cerdded i fyny i adfeilion y castell, edmygu’r gofeb ryfel anghyffredin a mynd i fyny’r ffwnicwlar i fwynhau’r golygfeydd syfrdanol dros Aberystwyth a’r bae.

Fel rhywun sydd â diddordeb mawr mewn hanes, dw i bob amser yn gallu dod o hyd i lefydd hanesyddol sy’n apelio. Wrth grwydro o gwmpas y siopau ynghanol y dref roeddwn i wrth fy modd i ddod ar draws Amgueddfa Ceredigion.  Nid amgueddfa gyffredin ydy hon – roedd yn arfer bod yn theatr a sinema ac mae llawer o’r nodweddion gwreiddiol yno o hyd. Mae bellach wedi ei throi yn safle treftadaeth.

Yr hen lwyfan a’r orielau yn yr amgueddfa

Neuadd Phillips

Adeiladwyd y neuadd adloniant wreiddiol ym 1891 a’i henwi ar ôl ei pherchennog, David Phillips. Yn 1902 roedd Neuadd Phillips wedi llosgi i’r llawr, felly adeiladodd David Phillips neuadd fawreddog newydd, Y Colisëwm.  Agorodd yn 1905 gydag arcêd o siopau islaw. Mae enw Phillips i’w weld yn y paneli mosaig wrth fynedfa’r adeilad. Cynhaliodd y Colisëwm o leiaf 5,000 o ddigwyddiadau gan gynnwys dramâu, cyngherddau, Eisteddfodau, ffilmiau a hyd yn oed cyfarfodydd gwleidyddol. Cafodd ei throi’n sinema yn 1932, yn fuan ar ôl i “talkies” gael eu cyflwyno.  Dangoswyd bron i 4,000 o ffilmiau yno nes i’r sinema gau yn 1977 pan gafodd yr adeilad ei adael yn wag.

Cafodd ei ailagor ar ôl ei adfer yn 1987 fel amgueddfa ac mae bellach yn adeilad rhestredig Gradd II. Y tu mewn, heibio’r dderbynfa a’r siop anrhegion, mae’r lloriau uchaf. Mae llawer o’r sinema wreiddiol dal yno gan gynnwys yr awditoriwm a’r oriel.

Y grisiau a’r portreadau ar waliau’r amgueddfa

O’r eiliad y cerddais i mewn i’r awditoriwm, roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi camu’n ôl mewn amser.  Mae’r llwyfan yn dal yno, a gwnes i ddychmygu gwylio sioe yno.  Ar y naill ochr i’r llwyfan mae grisiau sy’n arwain at yr orielau a’r waliau yn llawn paentiadau a phortreadau.  Mae pob rhan o’r oriel ddwy haen yn cynnwys arddangosfeydd am hanes gorllewin Cymru ac Aberystwyth drwy’r oesoedd. Mae llawer o’r ystafelloedd wedi’u rhannu yn wahanol ganrifoedd, ac roeddwn i wrth fy modd yn yr ystafell wnïo!

Roedd hi’n ddiwrnod poeth iawn o haf pan es i yno, ac roeddwn i wedi cael diod oer yn y bwyty ar y llawr cyntaf. Roedd staff yr amgueddfa’n wych am roi syniadau am lefydd i fynd.

Yn ogystal ag arddangosfeydd parhaol yr amgueddfa, mae hefyd yn cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro, cyngherddau, sesiynau ‘Dwylo ar Hanes’, a gweithdai fel dosbarthiadau ioga.

Ac os ydych chi’n chwilio am rywle unigryw iawn ar gyfer eich priodas, mae dwy ystafell i ddewis ohonyn nhw a bar.  Dw i bron â chael fy nhemtio i ddod o hyd i ŵr… ond falle ddim eto!

Yr oriel yn yr amgueddfa

https://ceredigionmuseum.wales