“Dim parcio.” “Terfyn cyflymder 20 m.y.a.” “Mind the gap.”
Rhowch sylw i’r arwyddion, a byddwch chi’n iawn, ch’mod? Dyna mantra’r oes fodern. Ein “diwylliant o gydymffurfio.” Ond dw i erioed wedi bod yn wych gydag awdurdod.
Wedi dweud hynny, mae’n werth rhoi sylw i rai arwyddion. Er enghraifft, os dych chi’n byw yng Nghaliffornia ac yn penderfynu mynd ar wyliau yn gyrru o gwmpas y Deyrnas Unedig am fis, mae’n werth talu sylw i’r arwyddion glas “Cadwch i’r Chwith.” Y rhai gyda’r saeth fawr arnyn nhw.
Ces i fy magu yn Lloegr, ond symudodd fy nheulu yn ôl i America cyn i fi fod yn ddigon hen i wneud prawf gyrru. Ac er fy mod i wedi bod yn ôl i’r DU sawl gwaith dros y degawdau, do’n i erioed wedi gyrru car ar ffyrdd y DU nes i fi fynd ar fy Anturiaeth Gymraeg Wallgof 2023 — fy ymweliad mis o hyd yn y gwanwyn y llynedd.
Ychydig o wythnosau cyn i fy nhaith ddechrau ro’n i’n hollol barod, gyda thrwydded yrru ryngwladol, yswiriant, ac ati. Ond ar ôl degawdau o yrru’n unig ar ochr dde’r ffordd, ac wrth eistedd ar ochr chwith y car wrth gwrs, dechreuais i fynd yn nerfus. Ro’n i angen help.
Roedd yn amser i wneud arwydd ar gyfer dashfwrdd fy nghar llogi – nodyn atgoffa cyson. Basai angen i’r arwydd fod yn glir, yn syml, ac yn weladwy bob amser pan o’n i’n gyrru. Felly gwnes i gynllunio ac argraffu arwydd glas crwn, pacio fy magiau, a hedfan i’r DU.
Ces i fy nghar yn Heathrow, yna treuliais i wythnos yn Swydd Buckingham gyda theulu. Wrth i ni yrru o gwmpas yn fy nghar, byddai pawb yn fy nheulu’n chwerthin ar yr arwydd ar y dashfwrdd. Roedd yn ddefnyddiol a doniol – perffaith! Wedyn, treuliais dair wythnos yn gyrru o amgylch Cymru gyda llais yn fy mhen oedd yn dweud, “Cadwch i’r chwith… chwith… chwith!” Heblaw am daro’r olwyn ar ambell bafin a gwylltio rhai gyrwyr drwy yrru’n rhy araf weithiau, ches i ddim unrhyw broblemau o gwbl.
Ond roedd rhai pethau o’n i ddim yn eu disgwyl.
Teithiais i drwy lawer o bentrefi gyda cheir wedi’u parcio ar hyd un ochr – yr holl ffordd i lawr – oedd yn creu “stryd un-lôn” i bob pwrpas. Ro’n i’n nerfus y tro cyntaf ond, dros amser, daeth gyrru drwy’r pentrefi yn ddigon hawdd.
Yng nghefn gwlad, gyrrais ar lawer o lonydd cul gyda pherthi bob ochr i’r ffordd. Allwn i ddim eu hosgoi, felly roedd rhaid i fi fwrw ymlaen a gobeithio am y gorau! Hefyd, roedd rhaid stopio i adael i’r gwartheg groesi’r ffordd mewn sawl lle.
Ac wrth gwrs… y cylchfannau. Mae llawer iawn ohonyn nhw ar draws Cymru ond yn America, maen nhw’n rhywbeth newydd yn y rhan fwya’ o ardaloedd. Mae ychydig yn Santa Barbara, felly ro’n i’n gyfforddus gyda’r cylchfannau yn y DU heblaw am ddau: un cylchfan dwbl mawr ger Heathrow, ac un arall ynghanol High Wycombe ger yr M4. Clywais i lawer o gyrn ceir wrth i fi yrru drwy’r ddau yna – ond fel arall, dim problem.
Bydda’i yng Nghymru eto yn fuan, felly efallai bydda i’n eich gweld chi ar hyd y ffordd yn rhywle. Plîs byddwch yn amyneddgar gyda fi os bydda i’n gyrru’n rhy araf!
Yn y cyfamser, fy mantra ydy: Cadwch i’r chwith!