Ar ddiwedd mis Mai – ar ôl teithio o amgylch Cymru am fis – cyrhaeddais i Sir Ddinbych ar gyfer penwythnos o ymlacio cyn gyrru yn ôl i Lundain ar gyfer yr hediad hir adre.

Gorffwys oedd y bwriad, ond dw i’n dwlu ar fynd i ardaloedd newydd: cwrdd â ffrindiau, ymweld â’r cestyll, chwilio am gyfleoedd ffotograffig, a phrofi blasau gorau’r ardal. Fel arfer, dw i’n brysurach na’r disgwyl, ac yn gadael gyda’r gobaith o ddychwelyd. Doedd fy amser yn Sir Ddinbych eleni ddim yn eithriad – ond faswn i ddim yn newid dim byd!

Rhai o winoedd Gwinllan y Dyffryn

Er fy mod yn byw yng Nghaliffornia ymhlith yr holl winllannoedd, dw i bob amser yn chwilfrydig i roi cynnig ar winoedd lleol wrth deithio. Trwy gyd-ddigwyddiad, wrth i fi baratoi ar gyfer Anturiaeth Gymreig Wallgof 2024, ro’n i’n gwrando ar Radio Cymru a wnes i glywed Aled Hughes yn cyfweld â Gwen Davies, cydberchennog Gwinllan y Dyffryn yn Sir Ddinbych. Dysgais i am y winllan newydd hon ar bum erw o dir yn Nyffryn Clwyd. Cafodd ei sefydlu gan Gwen a’i gŵr Rhys yn 2019. Penderfynias y byddai’n rhaid i fi ymweld â Gwinllan y Dyffryn, cwrdd â Gwen a Rhys, ac wrth gwrs… blasu eu gwinoedd!

Gwinllan y Dyffryn

Ro’n i newydd orffen cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn pan gyrhaeddais i Sir Ddinbych. Cwrddais â ffrind yn yr ardal ac, ar ôl cinio yn Llanrwst, roedd yn amser i ni fynd i Winllan y Dyffryn ar gyfer taith o’r gwinllannoedd ac ychydig bach o flasu gwin (a chaws) wedyn.

Yn y gwinllannoedd, dysgon ni am y gwinwydd oedd wedi cael eu dewis am eu bod yn gallu tyfu ym mhridd a thywydd Dyffryn Clwyd: Solaris, Seyval Blanc, Cabaret Noir, Pinot Noir Précoce, Rondo, a Divico.

Dysgon ni hefyd am yr holl waith sy’n angenrheidiol i dyfu grawnwin yn llwyddiannus yng Nghymru. Cawson ni ein synnu i ddysgu mai Gwen, Rhys, a’u plant sy’n gwneud popeth yn y winllan – heblaw am gynaeafu’r grawnwin yn yr hydref. Busnes teuluol go iawn ydy hwn!

Y winllan yn Sir Ddinbych

Mae Gwinllan y Dyffryn yn cynnig nifer o winoedd, gan gynnwys gwin gwyn, rosé, coch, a rosé pefriog. Mae’r gwinoedd wedi ennill nifer o wobrau.

Blasu’r Gwinoedd

Felly, ‘te – y cwestiwn mawr: Sut mae gwinoedd Gwinllan y Dyffryn yn cymharu gyda gwinoedd tebyg Califfornia?

Ateb hawdd: Maen nhw’n rhagorol!

Fel rhywun sy’n crwydro o amgylch gwinllannoedd yn ardal Santa Barbara ers pedwar degawd, dw i’n siŵr y basai gwinoedd Gwinllan y Dyffryn yn cymharu’n ffafriol yn erbyn gwinoedd Califfornia.

Prynon ni boteli o rosé a phefriog ar ddiwedd ein hymweliad – felly dyna’ch ateb!

 

Gwen y tu ol i’r bar yng Ngwinllan y Dyffryn

Ro’n i wrth fy modd i ddechrau darganfod gwinoedd Cymru. Gyda chynhyrchwyr fel Gwinllan y Dyffryn ar y map, mae dyfodol gwin Cymru yn edrych yn ddisglair… “pefriog” hyd yn oed!

Diolch, Gwen a Rhys. Bydda i yn ôl.