Dach chi’n hoffi dathlu Calan Gaeaf? Dach chi’n hoffi stori arswyd? Dyma stori fer gan Irram Irshad. Mae Irram yn fferyllydd sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n hoffi hanes a sgwennu creadigol…
Roedd fy ffrindiau annwyl wedi trefnu i fi aros mewn bwthyn am benwythnos ar gyfer fy mhen-blwydd yn 40 oed. Roedd y bwthyn ar dir Parc Gwledig Margam, lle mae llawer o ysbrydion yn ôl pob sôn. Roedd fy ffrindiau yn gwybod baswn i wrth fy modd yn ysgrifennu yma.
Cyrhaeddais tua 3pm dydd Gwener ac ro’n i’n gallu parcio ger y fynedfa i’r parc. Roedd yn dal ar agor i’r cyhoedd, ond roedd yn cau am 4.30pm. Roedd un o’r gwirfoddolwyr caredig o Gyfeillion Parc Margam wedi cwrdd â fi. Aeth a fi drwy’r tir i’r bwthyn. Roedd wedi tynnu sylw at adfeilion Tŷ’r Siapter. Roedd yn un o’r ychydig arwyddion bod mynachlog wedi bod ar y safle am ganrifoedd cyn i’r ‘fandal’ Henry VIII newid hynny i gyd yn 1536.
Roedd yr Orendy o’r 18fed ganrif yn edrych yn ysblennydd. Roedd yn dawel y penwythnos hwn ond roedd priodas wedi’i threfnu ar gyfer y penwythnos wedyn.
Ro’n i’n gallu gweld Eglwys yr Abaty drwy’r hen goed yn y parc. I’r dde, gallwn weld yn syth i fyny’r llwybr llydan sy’n dringo i fyny i’r stepiau, sy’n arwain at y castell gothig. Hyd yn oed o’r pellter hwn roedd yn edrych yn anhygoel. Aeth gwefr drwydda’i. Ro’n i’n dechrau cael syniadau ar gyfer fy nofel nesaf yn barod!
Roedd y bwthyn – Ivy Cottage – ger Tŷ’r Siapter. Roedd yn edrych fel bwthyn cyffredin o’r ffrynt ond, ar yr ochr, roedd nodwedd ryfeddol – ffasâd yn yr arddull Groegaidd sy’n cynrychioli’r Tymhorau. Cafodd ei achub o’r hen dŷ haf ers talwm. Roedd y cerfio cywrain yn syfrdanol.
Wedyn, aethon ni i mewn i’r bwthyn. Ar ôl mynd trwy’r cyfarwyddiadau gyda fi, gadawodd yr allweddi ac ro’n i’n rhydd i archwilio’r bwthyn a’r gerddi cyfagos. Roedd yr ymwelwyr yn dechrau gadael y parc. Gan ei bod yn fis Hydref, dechreuodd dywyllu’n gyflym. Y staff a’r gwirfoddolwyr oedd yr olaf i adael. Ac eithrio i swyddog diogelwch yn crwydro o gwmpas y parc, roedd Margam i gyd yn eiddo i mi.
Ro’n i’n gyffrous iawn i fynd i grwydro ac, ar ôl gwisgo fy nghôt, es i yn ôl i adfeilion Tŷ’r Siapter. Gan ddefnyddio’r torsh ar fy ffôn, teimlais y cerrig esmwyth a gweddillion y pileri oedd yn dangos pa mor fawr oedd y fynachlog wedi bod ar un adeg.
Wrth i mi droi tuag at y llwybr oedd yn arwain at y castell, clywais frigyn yn torri y tu ôl i mi. Wnes i droi o gwmpas, a chodi fy ffôn ond doedd dim byd yno. Fe wnes i chwerthin i mi fy hun, roedd hi’n rhy gynnar i feddwl am ysbrydion dychmygol!
Fe wnes i gerdded i fyny’r llwybr tuag at y castell. Roedd y castell yn edrych yn anferth wrth i mi agosáu, fel bwystfil enfawr yn y tywyllwch. Stopiais wrth y stepiau sy’n arwain at yr ardd teras. Ro’n i eisiau gwneud nodiadau ar fy ffôn ar gyfer y stori oedd yn ffurfio yn fy meddwl. Edrychais i fyny wrth i mi roi fy nhroed ar y stepen gyntaf, ac yna stopio. Roedd siâp du ar ben y stepiau oedd ddim wedi bod yno o’r blaen. Wnes i fflachio fy nhortsh ato – a gweld dim byd ond y castell. Ar ôl i fi roi’r dortsh i lawr, roedd o wedi ymddangos eto. Roedd tua chwe throedfedd o uchder, ac yn gwisgo rhywbeth oedd yn edrych fel mantell, ei freichiau wedi croesi. Roedd yn edrych fel mynach.
Fe wnes i chwerthin a dweud wrth fy hun i beidio â bod yn wirion. Wnes i alw ato – mae’n rhaid mai’r swyddog diogelwch oedd yno, ond daeth dim ateb yn ôl – dim ond distawrwydd. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu clywed unrhyw fywyd gwyllt. Wrth imi edrych ar y ffurf du, roedd fy nghalon yn curo’n wyllt. Dechreuodd gerdded tuag ata’i. Wnes i drio siarad ond roedd fy llais yn crynu. “Pwy wyt ti?” gofynnais.
Fe wnaeth y ffigwr bwyntio bys main tuag ata’i. “Chi,” meddai.
Yn sydyn, roedd y dortsh wedi diffodd. Wnes i sgrechian yn y tywyllwch. Clywais sŵn ac roeddwn i’n gwybod bod y ffigwr yn dod tuag ata’i. Fe wnes i droi a rhedeg. Roeddwn i wedi syrthio wrth redeg i lawr y stepiau. Wnes i godi, ac roeddwn i’n gallu gweld y ffigwr yn dod yn agosach tuag ata’i.
Fe wnes i redeg yn ôl tuag at y bwthyn, heibio adfeilion Tŷ’r Siapter. Fe wnes i fentro edrych y tu ôl i fi ac roedd y ffigwr yn symud yn gyflymach. Gwaeddais eto, cyn syrthio i’r llawr a tharo fy mhen ar un o’r cerrig wrth yr allor.
Roedd fy nheulu a’m ffrindiau wedi dod i osod blodau wrth yr allor. Roedden nhw’n crio ac yn edrych mor drist. Ro’n i wedi ceisio estyn fy llaw atyn nhw, ac erfyn arnyn nhw i fynd â fi adref, ond doedden nhw ddim yn gallu fy nghlywed. Ro’n i’n gwybod o’r eiliad yr oeddwn i wedi deffro, yn gwisgo mantell y mynach, bod dim pwynt sgrechian – doedd neb yn gallu fy ngweld na fy nghlywed.
Roedd hi’n amser maith yn ôl ers i fy ffrindiau ddod yma. Roedd y parc wedi cau ei giatiau am y tro olaf wrth i’r ymwelwyr gadw draw. Doedd dim digon o arian i gadw’r lle ar agor. Roedd y tir wedi troi’n wyllt, a’r castell a’r fynachlog wedi mynd yn adfail. Trwy gydol fy mywyd ro’n i wedi cael fy nghyfareddu gan y goruwchnaturiol, wedi fy swyno gan yr hyn sydd y tu hwnt. Nawr, wrth sefyll ar ben y stepiau yn edrych i lawr ar Dŷ’r Siapter, fel roeddwn i’n gwneud bob nos hyd dragwyddoldeb, ro’n i’n gwybod beth oedd y tu hwnt.
Uffern.