Mae Fiona Collins yn chwedleuwr. Roedd hi wedi ennill teitl Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2019. Mae hi’n cynnal Clwb Stori Cymraeg dros Zoom unwaith bob mis. Yma, mae hi’n dweud mwy am y clwb…
Wyt ti’n hoffi chwedlau?
O, sori: beth ydy chwedl? Rhaid i mi egluro!
Mae chwedlau yn hen storïau i wrando arnyn nhw, dim i’w darllen. Ti’n gallu darllen chwedlau mewn llyfrau, wrth gwrs, ond gwrando arnyn nhw ydy’r ffordd orau i fwynhau’r stori, creda fi!
Y storïau mae rhieni yn dweud wrth eu plant amser gwely, hyd at heddiw, ydy chwedlau.
Y math o storïau roedd y beirdd yn adrodd i Arglwydd y llys, ar ôl gwledd, efallai gyda rhywun yn canu’r delyn i gyd-fynd â’r geiriau, ydy chwedlau.
Y math o storïau y mae chwedleuwyr, fel fi, yn dweud. Dan ni’n chwedleua mewn theatrau, neuaddau, orielau, llyfrgelloedd, cestyll ac ysgolion ledled Cymru a thu hwnt – ac erbyn hyn, dros Zoom hefyd!
Yma yng Nghymru mae gynnon ni chwedlau hynafol, trawiadol ac arbennig o dda. Maen nhw’n hyfryd yn Saesneg, ond hyd yn oed yn wellyn y Gymraeg!
Hoffet ti wrando ar chwedlau unwaith y mis, tra’n eistedd yn gyfforddus ar dy soffa? Beth am ymuno â ni yng Nghlwb Stori Cymraeg dros Zoom?
Ers Mis Chwefror 2021, dwi’n cynnal Clwb Stori Cymraeg dros Zoom gyda fy ffrind a chyd-chwedleuwr, y Cymro Ceri Phillips. Mae Ceri yn byw yn Llandeilo, Sir Gâr. Dw i’n byw yn bell oddi wrtho fo, ger Corwen yn Sir Ddinbych – ond, gyda hud a lledrith Zoom, dan ni’n gallu cyfarfod bob mis i rannu chwedlau.
Fel arfer mae 15-20 o bobl yn ymuno â ni ar Zoom i wrando ar chwedlau, yn gyfan gwbl yn Gymraeg, gan bedwar chwedleuwr. Mae Ceri a fi’n dweud chwedl bob mis a, bob tro, mae dau chwedleuwr arall yn rhannu chwedl hefyd.
Mae rhai o’r chwedleuwyr yn Gymry Cymraeg, a rhai yn ddysgwyr, fel fi. Mae’r un peth gyda’r gwrandawyr: rhai yn Gymry Cymraeg, rhai yn ddysgwyr.
Dan ni i gyd yn hoffi chwedlau, a’r iaith Gymraeg!
Os wyt ti’n hoffi chwedlau hefyd, ac yn hapus i wrando yn y Gymraeg (does dim angen siarad) e-bostia fi ar fionastory3@gmail.com i dderbyn y ddolen Zoom. Mae’n rhad ac am ddim.
Gan edrych ymlaen at dy weld di yn ein bocsys bach Zoom!
Dyma ddyddiadau’r Clwb hyd at ddiwedd y flwyddyn: Nos Sul, 20 Hydref, 17 Tachwedd, 15 Rhagfyr a bydd yn parhau bob mis yn 2025.