Mae’r band Brigyn yn 20 oed y mis yma. Roedd y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o Eryri wedi dechrau’r band ym mis Tachwedd 2004. Cafodd eu halbwm gyntaf ei rhyddhau’r un pryd ac yn gymysgedd o gerddoriaeth felodig werinol/electronica.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Brigyn wedi rhyddhau saith albwm llawn, chwe sengl/ep, ac wedi perfformio drwy’r cyfnod yma.
Yma mae Ynyr Roberts yn ateb cwestiynau Lingo360:
Beth ydy’r uchafbwyntiau dros yr 20 mlynedd ddiwethaf?
Mae gymaint o uchafbwyntiau wedi bod dros 20 mlynedd – yr holl berfformiadau ym mhob cwr o Gymru, a chanu dramor yn Iwerddon, yr Alban, ac yn San Francisco! Roedd ein taith yn yr Ariannin yn 2010 yn un arbennig iawn. Y daith honno wnaeth ysbrydoli’r albym ‘Dulog’. [Dulog = Armadillo (anifail sy’n gyffredin iawn ym Mhatagonia].
Sut mae’r sîn gerddoriaeth wedi newid ers i chi ddechrau yn 2004?
Yn debyg i 2024, roedd y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn fywiog, cynhyrchiol a chyffrous ugain mlynedd yn ôl. Ond oes y CD oedd 2004. Roedd yn oes cyn gwefannau ffrydio fel Spotify a chyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Twitter a TikTok! Roedd hyrwyddo cerddoriaeth yn fwy syml yn bendant. Ond roedd angen bod yn greadigol i gael sylw. Mae’r cyfleoedd bellach yn llawer mwy eang. Mae’n sicr yn ddifyr bod yn rhan o fwrlwm y sîn yn 2024.
Pa gân ydach chi’n fwyaf balch ohoni?
Y gân fwya’ adnabyddus o gatalog Brigyn yw Haleliwia gan Leonard Cohen. Mae’n gân wnaethon ni ddechrau ei chanu ddiwedd 2005. Roedden ni wedi cael yr hawl i’w rhyddhau yn 2008. Tony Llewelyn oedd wedi ysgrifennu’r geiriau a’r trefniant gan Nia Davies-Williams. Mae wedi bod yn gân boblogaidd gyda nifer fawr o bobl dros y byd. Pleser oedd cael bod y grŵp cynta’ i roi’r gân ar CD.
Sut fath o brofiad ydy cyfansoddi efo’ch brawd – ydach chi’n cytuno y rhan fwya’ o’r amser?
Ie, yn wahanol i’r brodyr Liam a Noel [Gallagher] sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael 20 mlynedd o harmoni a lot o hwyl ers dechrau cyfansoddi a pherfformio. Rydan ni’n cytuno ar y rhan fwyaf o bethau ac yn mwynhau cydweithio gyda’n gilydd.
Beth ydach chi eisiau ei wneud yn yr 20 mlynedd nesaf?
Mae mwy o ganeuon angen ei recordio a’u rhyddhau gan Brigyn. A bydd 2025 yn flwyddyn o ddathlu – gan ddechrau gyda chyfres o gigiau dros y gwanwyn a gwyliau dros yr haf. Ymlaen i’r 20 mlynedd nesa!
Dyma gigs Brigyn yn 2025:
24 Ionawr – Y Cwtsh, Pontyberem
1 Mawrth – St John’s, Treganna, Caerdydd (mae tocynnau ar gael yma)
6 Mawrth – Bank Vaults, Aberystwyth
25 Ebrill – Y Llew Gwyn, Tal-y-bont
17 Mai – Galeri, Caernarfon