Bydd arddangosfa yn Sain Ffagan ddydd Gwener (Mawrth 9) i ddathlu ymgyrch menywod Cymru dros heddwch.
Bydd Hawlio Heddwch yn adrodd straeon menywod Cymru sy’n gwrthwynebu rhyfel.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd tua 400,000 o fenywod Cymru wedi llofnodi deiseb heddwch, a’i rhoi i fenywod yn America.
Tua saith milltir oedd hyd y ddeiseb.
Cafodd y ddeiseb ei rhoi gan Annie Hughes-Griffiths, Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys.
Mae’r ddeiseb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.
Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys baneri protest Comin Greenham gan ferched o Gaerdydd yn erbyn arfau niwclear yn y 1980au o Amgueddfa Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru’n dweud eu bod nhw’n “falch iawn” o arddangos yr eitemau, ac mae’r Loteri Genedlaethol yn hapus i gefnogi’r arddangosfa.
Mae mynediad am ddim i’r arddangosfa.