Dach chi’n chwilio am lyfr i roi yn anrheg Nadolig i blentyn neu riant? Efallai dach chi a’ch plentyn yn dysgu Cymraeg efo’ch gilydd?
Mae Rhian Cadwaladr yn awdur ac yn sgwennu colofn i Lingo Newydd. Mae hi a’i merch, Leri Tecwyn wedi cyhoeddi llyfr Nadolig arbennig. Y Goeden Nadolig Orau Erioed ydy enw’r llyfr.
Leri sydd wedi paentio’r lluniau i gyd â llaw.
Mae’r llyfr yn helpu efo dysgu rhifau a lliwiau.
Mae’r stori am Non a’i thad yn addurno’r goeden Nadolig yn y tŷ.
Mae Rhian yn dweud: “Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio efo fy merch eto. Mae’n neis gweld lluniau sydd wedi eu peintio â llaw mewn byd o ddarluniau digidol. Bwriad Leri oedd creu naws gartrefol. Mae’n edrych fel petai pob addurn wedi eu gwneud efo llaw, ac felly nid yw pob un yn union yr un fath.
Dw i wedi ei gyflwyno i fy ŵyr bach Tomos, sy’n 15 mis oed ac roedd yn brofiad arbennig!”.
Gwasg Carreg Gwalch, £6.99. Mae’r llyfr ar gael yn eich siopau llyfrau Cymraeg lleol.