Bydd sgwrs ysbrydoledig gan ddau ddysgwr Cymraeg yn cael ei chynnal yn Wrecsam ar 18 Ebrill.
Mae Stephen Rule yn cael ei adnabod fel ‘Doctor Cymraeg’ ac mae ganddo 58,000 o ddilynwyr ar Instagram. Mae Francesca Sciarrillo yn golofnydd i Lingo Newydd a Lingo360 ac hefyd yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru. Bydd y ddau yn ymuno a’i gilydd am sesiwn holi-ac-ateb anffurfiol ar bopeth yn ymwneud â’r iaith.
Mae Stephen a Francesca yn siarad mwy nag un iaith, ac mae’r ddau yn ddysgwyr Cymraeg sydd wedi dod yn rhugl. Mae gan y ddau stori ddiddorol i’w hadrodd am yr effaith mae ieithoedd – a’r Gymraeg yn arbennig – wedi’i chael ar eu bywydau.
Byddan nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan gylchgrawn Lingo Newydd, i ysbrydoli pawb sy’n teimlo fel Cymry i ddechrau dysgu’r iaith.
Ffigurau’n cynyddu
Roedd ffigurau Cyfrifiad 2021 yn awgrymu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol. Ond mae ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau yr wythnos hon yn dangos cynnydd o 11% yn nifer y bobol sy’n dysgu’r iaith drwy ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ac wrth i ffigurau gynyddu, mae nifer darllenwyr prif gylchgrawn dysgwyr Cymru, Lingo Newydd wedi cynyddu hefyd. Mae’r cylchgrawn yn ffordd o bontio’r bwlch rhwng dosbarthiadau Cymraeg ffurfiol a dod yn rhan o ffordd o fyw a diwylliant Cymru.
“Mae Lingo Newydd yn fwy nag adnodd defnyddiol i ddysgwyr. Ydy, mae’n cynnwys erthyglau ar ffurf cod lliwiau i gyd-fynd â lefel y dysgwyr, geirfa o dermau anghyfarwydd a thrac sain o bob erthygl ar y fersiwn ar-lein o’r cylchgrawn, ond mae hefyd yn rhoi i ddarllenwyr ymdeimlad o Gymru a phwy ydym ni. Trwy golofnwyr ac erthyglau diddorol am hanes, bwyd, llyfrau, crefftau a mwy, mae Lingo Newydd wedi dod yn gydymaith perffaith ar y daith o fod yn ‘ddysgwr’ i fod yn siaradwr rhugl,” eglura Bethan Lloyd, Golygydd Lingo Newydd.
Bydd y sesiwn Why learn the lingo (and fun tips on using your Welsh in the wild!) yn cael ei chynnal am 5pm ddydd Iau 18 Ebrill 2024 yn Llyfrgell Wrecsam. Bydd y sgwrs yn Saesneg yn bennaf (gyda thipyn o Gymraeg wedi ei daflu i mewn!)
Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Gyngor Llyfrau Cymru a Cymru Greadigol, trwy brosiect Ein Stori Ni.