Dach chi’n cael gwersi Cymraeg ar-lein? Neu dach chi’n mynd i ddosbarth? Mae trafodaeth wedi bod dros yr wythnosau diwethaf – mae rhai dysgwyr yn dweud bod gormod o wersi Cymraeg ar-lein. Maen nhw’n dweud bod angen cael mwy o wersi wyneb yn wyneb.
Mae angen gwneud hyn os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai nhw.
Roedd y newid o ddysgu mewn dosbarth i wersi ar-lein wedi digwydd yn ystod cyfnod Covid. Ond rŵan mae rhai yn dweud bod angen mynd nôl i ddysgu mewn dosbarth. Maen nhw’n dweud bod hyn yn “llawer mwy effeithiol a chymdeithasol na dysgu o flaen cyfrifiadur”.
Mae’n bwysig bod dysgwyr yn cwrdd â Chymry Cymraeg a theimlo eu bod nhw yn rhan o’r gymuned, meddai un arall.
Ond mae rhai yn dadlau bod gwersi ar-lein yn agor y drws i lawer o ddysgwyr y tu allan i Gymru ac yn fwy hwylus i lawer o bobl. Beth dach chi’n meddwl?
‘Llawer o fanteision o ddysgu ar-lein’
Yma mae’r tiwtor Cymraeg Pegi Talfryn o Popeth Cymraeg yn Sir Ddinbych, a cholofnydd Lingo360, yn rhoi ei barn ar y mater.
“Mae angen bod yn ymarferol pan dan ni’n siarad am beth sydd orau wrth ddysgu Cymraeg.
Fyddai neb yn dadlau nad yw’n braf iawn cynnal dosbarthiadau yn y cnawd. Mae ’na wefr o fod mewn dosbarth a chreu cymuned fach i’r dysgwyr. Mi ddylen ni gael cymaint â phosib o ddosbarthiadau wyneb yn wyneb.
Yn aml iawn, os nad oes digon o ddysgwyr i gynnal dosbarth wyneb yn wyneb, mae troi’r dosbarth yn ddosbarth ar-lein yn cadw’r dosbarth i fynd. Mae hyn yn digwydd yn enwedig pan mae’r dosbarthiadau ar lefelau Sylfaen i fyny. Ers y pandemig mae’n ddigon hawdd dechrau dosbarthiadau lefel Mynediad, ond mae hi’n anodd cael digon o bobl ar rai lefelau i ddod ar yr un amser i gynnal dosbarth.
Mae llawer o fanteision o ddysgu ar-lein. Mae petrol yn rhy ddrud i rai pobl. Dydy rhai pobl ddim yn hoffi gyrru yn y nos. Dw i’n dysgu sawl un fyddai byth yn medru dod i’r dosbarth oni bai ei fod ar-lein achos maen nhw’n cyrraedd adre funudau cyn i’r wers ddechrau, ac yn bwyta eu te (gan gadw’r sain i ffwrdd) yn ystod y wers. Mae gen i bobl (ifainc yn ogystal â hen) sydd â phroblemau iechyd fyddai byth yn gallu cyrraedd y dosbarth oni bai ei fod ar-lein.
Mae cael dysgwyr o’r tu allan i Gymru yn sicrhau bod niferoedd yn ddigon uchel i gynnal rhai dosbarthiadau. Maen nhw’n dysgu Cymraeg achos eu bod yn bwriadu symud i Gymru yn y pen draw, neu achos eu bod eisiau defnyddio Cymraeg pan maen nhw’n dod ar wyliau. Pwy sy’n gallu gwrthwynebu hynny?
Rhaid cynnig amrywiaeth
Hefyd mae manteision technegol o ddysgu ar-lein. Mae’r tiwtor yn gallu recordio’r wers (gyda chaniatâd y dysgwyr), sy’n golygu bod myfyrwyr yn gallu dal i fyny gyda’r wers os ydyn nhw wedi bod i ffwrdd. Hefyd maen nhw’n gallu gwylio’r wers os ydyn nhw eisiau mynd dros ryw esboniad eto. Mae sicrhau bod y dysgwyr yn gallu gwylio’r gwersi ar-lein yn sicrhau bod y myfyrwyr yn aros yn y dosbarth.
Peth braf hefyd ydy gweld cymunedau’n tyfu yn y dosbarth ar-lein, gyda myfyrwyr yn cadw mewn cysylltiad â’i gilydd y tu allan i’r wers, ac weithiau yn cwrdd â’i gilydd yn y cnawd.
Mae’r Canolfannau Iaith a’r Mentrau yn cynnig digon o gyfleoedd i’r dysgwyr sydd yn byw yng Nghymru i ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffyrdd llawer mwy naturiol na bod yn y dosbarth.
Dydyn ni ddim eisiau cau’r drws ar bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg. Mae’n rhaid i ni fod yn gynhwysol a chynnig amrywiaeth o wersi i siwtio pawb sydd eisiau dysgu Cymraeg.”
Mae Lingo360 wedi gofyn am ymateb y Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd.