Fel dych chi’n gwybod erbyn hyn, dw i’n dwlu ar gerddoriaeth.

Ac mae newyddion cyffrous gyda fi – bydd fy sengl Gymraeg gyntaf, Americanwr Balch, yn cael ei rhyddhau fory (Dydd Gwener, 29 Mawrth). Mae’n gân tafod-yn-y-boch am agweddau Americanaidd, felly er gwaetha’r teitl dyw hon ddim yn gân wladgarol! Bydd y sengl ar gael i’w lawrlwytho, a ffrydio yma.

Dyma’r tro cyntaf i fi ysgrifennu a recordio yn Gymraeg. Sut digwyddodd hyn? Wel…

Tra’n teithio o gwmpas Cymru’r llynedd, dechreuais i feddwl: “Tybed a fyddai gwrandawyr Cymraeg yn mwynhau clywed Brit o Galiffornia yn gwneud hwyl am ben America – yn Gymraeg! Felly dechreuais i weithio ar eiriau Cymraeg i’r gân Proud American o fy albwm 2021. Dyna oedd geni Americanwr Balch.

Clawr y sengl Americanwr Balch

Gyda geiriau caneuon neu farddoniaeth, mae symud o un iaith i’r llall yn fwy fel “ail-ysgrifennu” na chyfieithu. Mae’n amhosib cadw odl a rhythm y geiriau fel arall. Roedd yn teimlo fel pos – yn anoddach na dechrau gyda thudalen wag! Ond dw i’n dwlu ar bosau. Gobeithio bydd pobl yn chwerthin ac yn gwerthfawrogi’r neges tafod-yn-y-boch, sarcastig!

Canu

Gyda’r geiriau Cymraeg wedi gorffen, roedd hi’n amser canu. Dw i wedi bod yn canu a recordio am flynyddoedd, ond wastad yn Saesneg. Tan nawr.

Ro’n i’n gyfforddus yn canu yn Gymraeg ar ôl canu ynghyd ag albymau Cymraeg. Ond do’n i erioed wedi recordio fy hun yn Gymraeg, felly doedd gen i ddim syniad sut o’n i’n swnio! Fyddwn i’n “gredadwy” fel canwr Cymraeg? Doedd dim ond un ffordd i ddarganfod

Recordio a chymysgu

 Roedd fy sesiwn gyntaf yn eitha’ anodd, ond aeth yr ail yn llawer gwell. Roedd popeth yn llifo, a dechreuais i ymlacio. Doedd fy nghyd-gynhyrchydd Thom Flowers (Steve Perry, The Ataris) erioed wedi gweithio gyda thraciau sain Cymraeg o’r blaen. Ar ôl iddo fe orffen golygu’r prif lais, dwedodd Thom: “Dw i ddim yn deall beth wyt ti’n canu, Pawlie — ond dw i’n dy gredu di!”

Nesa daeth y cymysgu, lle byddai’r traciau i gyd yn cael eu cyfuno i greu un ffeil stereo. Treulion ni ddiwrnod yn cymysgu yn Hi-Volt Sound yn Santa Barbara, stiwdio Thom. Pan o’n ni’n hapus gyda’r cymysgiad, ro’n ni’n barod ar gyfer cam olaf y broses greadigol: meistroli.

Geiriau Americanwr Balch

Meistroli

Mae meistroli albwm yn cynnwys gloywi sain bob cymysgiad, rhoi’r caneuon mewn trefn, paratoi ar gyfer creu CDs a/neu finyl, a chreu ffeiliau terfynol ar gyfer lawrlwytho a ffrydio. Gyda sengl ar-lein, does dim ond angen gloywi’r sain a chreu ffeil “meistr.”

Dw i fel arfer yn meistroli mewn stiwdios yma yng Nghaliffornia. Ond ar gyfer Americanwr Balch, penderfynais y dylwn i feistroli fy nghân Gymraeg gyntaf yng Nghymru! Felly anfonais y gân at Gethin John yn Hafod Mastering, yn ne Cymru. ‘Dyn ni’n dwlu ar y gwaith terfynol, ac yn gobeithio y byddwch chi’n dwlu arno hefyd!

Cardiau Americanwr Balch

Gwaith celf

Cafodd gwaith celf y sengl ei greu gan yr arlunydd gweledol o San Diego, Igor Koutsenko. I ddathlu fy nghân Gymraeg gyntaf, dw i wedi argraffu cardiau 7×7 modfedd gyda’r gwaith celf, geiriau, credydau, a chod QR ar gyfer gwrando, prynu, neu ffrydio ar-lein.

 Beth sy nesa?

Bydda i yng Nghymru cyn bo hir, ac yn bwriadu hyrwyddo Americanwr Balch yn ystod fy nhaith. Wedyn, hoffwn i wneud fideo yn yr haf – ‘dyn ni jyst angen tipyn bach o gyllid

Cafodd Americanwr Balch ei chyd-gynhyrchu gyda Thom Flowers (Steve Perry, The Ataris), gyda Jake Hayden (Beth Ditto, Nick Carter) ar y drymiau, Dean Dinning (Toad the Wet Sprocket) ar y bas a’r organ, Mike Keneally (Zappa, Vai, Satriani) ar y gitâr arweiniol, a Roger Joseph Manning Jr. (Jellyfish, Beck) ar y piano a’r syntheseisydd. Chwaraeais i’r gitarau rhythm acwstig a thrydan, a fi sy’n canu’r holl leisiau.