Maen nhw’n dweud, “Does unman yn debyg i gartref.”
Yn y cyd-destun dysgu Cymraeg, byddwn i’n newid yr ymadrodd yma i: “Does unrhyw beth yn debyg i ddosbarth wyneb yn wyneb!”
Fel dych chi’n gwybod erbyn hyn, dw i’n byw yn Santa Barbara, Califfornia.
Ar ôl tua ugain mis yn mynychu dosbarthiadau ar-lein – cyrsiau Mynediad, Sylfaen, a Chanolradd drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – ro’n i’n awyddus i fynd i ddosbarth wyneb yn wyneb yn ystod fy nhaith o amgylch Cymru eleni.
Wrth i mi ymweld â gogledd Cymru’r llynedd, es i Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn i weld yr ardal, a cherdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Ar ôl dwy awr ar y llwybr, ymwelais â’r Ganolfan Dreftadaeth yn Nant Gwrtheyrn er mwyn dysgu am hanes “Y Nant” dros y blynyddoedd.
Chwarel ithfaen oedd y safle yn wreiddiol, ac mae hanes hir a lliwgar gyda Nant Gwrtheyrn:
- 1878-1900 – Cafodd chwareli Cae’r Nant, Porth y Nant, a Charreg y Llam eu hagor.
- 1910 – Cafodd enw’r safle ei newid o Bort y Nant i Nant Gwrtheyrn.
- 1939-1959 – Cafodd y chwarel olaf ei chau a’r teulu olaf yn yr ardal wedi gadael.
- 1970au – Roedd hipis wedi symud yno gan ddifrodi’r adeiladau.
- 1978 — Cafodd y safle ei brynu gan Dr Carl Clowes a chefnogwyr o amgylch Cymru.
- 1978-1982 – Cafodd Y Nant ei hail-adeiladu i greu Canolfan Iaith.
- 1982 – Cafodd y dosbarth cyntaf ei gynnal, gan ddau diwtor gwirfoddol.
- 2003 – Agorodd y Ganolfan Dreftadaeth.
Erbyn hyn, mae’r Nant yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl pum-diwrnod (Llun-Gwener) fel rhan o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae sawl cwrs rhithiol ar gael hefyd.
Ar ôl ymweld â Nant Gwrtheyrn y llynedd, ro’n i’n gwybod yn iawn fod rhaid i fi gofrestru ar gwrs preswyl eleni. Er bod y cyrsiau yn gwerthu’n gyflym, ro’n i’n gallu cofrestru ar gwrs Canolradd. Amseru perffaith, mwy neu lai!
Felly, ‘te… sut oedd fy mhrofiad ar y cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn?
Un gair: eithriadol!
Mae pedwar sesiwn dosbarth bob dydd (fel arfer), sawl egwyl paned yn ystod y dydd ac, wrth gwrs, llawer iawn o amser i drochi eich hun yn y Gymraeg o fore gwyn tan nos – a thu hwnt! Roedd y gwersi yn anhygoel bob dydd, ac roedd ein tiwtor Eirian Davies yn ysbrydoledig. Diolch i Eirian, erbyn diwedd y cwrs roedd gan bawb ffyrdd newydd o feddwl am ramadeg Cymraeg, geirfa ychwanegol, a mwy o hyder. Cafodd fy sgiliau siarad eu dyrchafu gan y cwrs, a chawson ni amser anhygoel fel grŵp. Diolch, Eirian a phawb!
Mae’r profiad yn Nant Gwrtheyrn yn cynnwys digwyddiadau arbennig, hefyd. Ar y nos Fawrth, gawson ni gyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw yn y neuadd gyda’r canwr-gyfansoddwr Lleucu Gwawr. Yna, prynhawn Mercher, aeth ein dosbarth ar wibdaith i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy – cyn cerdded dros y ffordd i Dafarn y Plu am ddiod, wrth gwrs!
Yn ystod y cyrsiau preswyl, mae brecwast, cinio, a swper yn cael eu gweini yn y neuadd bob dydd, heblaw am ddydd Gwener (dim ond brecwast a chinio). Mae’r llety yn Nant Gwrtheyrn yn hyfryd, gydag ystafelloedd preifat cyfforddus (gydag en-suite) i bawb – a WiFi / cysylltiad rhyngrwyd cyflym iawn.
Wnes i adael Nant Gwrtheyrn brynhawn Gwener, yn teimlo’n well am bob elfen o fy Nghymraeg: darllen, ysgrifennu, gwrando – ond yn enwedig siarad yr iaith. Mewn dim ond pum diwrnod. Waw.
Dw i’n cwympo’n ddyfnach ac yn ddyfnach mewn cariad gyda’r Gymraeg, Cymru, y Cymry, a’r hanes sy’n cysylltu popeth gyda’i gilydd. Ro’n i’n drist i adael Nant Gwrtheyrn, ond dw i ar fin cofrestru ar gyfer cwrs Uwch yn Y Nant y flwyddyn nesa. Rhywbeth anhygoel i edrych ymlaen ato!
Yn y cyfamser, ar ôl treulio pedair wythnos yng Nghymru, mae’n amser i hedfan yn ôl i Galiffornia. Dw i’n ysgrifennu’r golofn hon mewn gwesty yn Llundain. Ac er fy mod i’n gweld eisiau Cymru yn barod, bydd yn hyfryd cysgu yn fy ngwely fy hun ar ôl mis ar y ffordd.
Does unman yn debyg i gartref.