Un o’r pethau wnaeth fy ysbrydoli’n fawr pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg oedd cerddoriaeth.  Efallai oeddech chi’n disgwyl i mi ddweud llyfrau os dach chi wedi darllen un o fy ngholofnau o’r blaen – ac mi fysach chi yn gywir yn meddwl hyn.

Mae llyfrau wedi bod yn hollbwysig ac yn hanfodol trwy gydol fy mlynyddoedd o ddysgu, ond dwi hefyd yn teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael fy nghyflwyno i fyd cerddoriaeth newydd o ganlyniad i ddysgu Cymraeg.

Dyma pam dwi wrth fy modd yn rhannu clipiau o ganeuon a gwyliau cerddoriaeth i fy nosbarth Cymraeg ar ddechrau pob gwers. Mae’n dda fel adnodd dysgu, ond dw i hefyd yn gobeithio sbarduno cariad at gerddoriaeth gan artistiaid Cymraeg yn gyffredinol.

A dyma hefyd un o’r sgyrsiau dwi’n mwynhau cael efo pobol eraill sydd wedi dysgu Cymraeg. Pa fandiau neu artistiaid wyt ti wedi darganfod trwy ddysgu Cymraeg? Dro ar ôl tro, mae siaradwyr newydd yn disgrifio cerddoriaeth Gymraeg fel rhywbeth sydd wedi’u hysbrydoli ar hyd eu taith dysgu – rhywbeth dw i’n gallu uniaethu gydag yn llwyr.

Tair albwm Gwenno

Trac i’r dysgwyr

Felly bob hyn a hyn yn fy ngholofnau, mi fyswn i wrth fy modd yn argymell trac i ddarllenwyr Lingo360. Ac oherwydd mai Wythnos Dathlu Dysgu ar Radio Cymru ydy hi wythnos yma, roeddwn i’n meddwl y byddai rŵan yn amser da i ddechrau!

Felly dyma ddewis trac i’r dysgwyr: caneuon sydd wedi fy ysbrydoli ar fy nhaith dysgu efo ‘chydig o hanes tu ôl i’r gân neu’r artist. Hoffwn ddechrau efo un o fy hoff artistiaid: Gwenno, a’i chân o’r enw Chwyldro. Dyma’r gân gyntaf clywais ganddi hi a dyma hefyd y gân gyntaf ar ei halbwm gyntaf: Y Dydd Olaf.

Y gig Cymraeg cyntaf i fi weld oedd Gwenno yn Pontio ym Mangor, er mai ei hail albwm oedd y rhan fwyaf o’r set sy’n cynnwys caneuon Cernyweg. Felly mae’n saff i ddweud bod ei gwaith hi’n agos iawn at fy nghalon gan ei fod yn cynrychioli trobwynt yn fy nhaith dysgu, a’r cyfle cyntaf i mi wrando ar albwm gyfan yn y Gymraeg.

Cymraeg a Chernyweg

Mae Gwenno’n artist o Gaerdydd  sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru a thu hwnt efo tair albwm boblogaidd lle mae hi’n canu yn y Gymraeg a Chernyweg. Mae ei halbwm gyntaf hi, Y Dydd Olaf, wedi’i hysbrydoli’n rhannol gan y nofel dystopaidd gan Owain Owain. Mae’n plethu safbwyntiau gwleidyddol efo synau electropop efo’i gilydd. Mae’n hollol wych!

Mae’n gân hynod ddiddorol i wrando arni. Mae’r gân Chwyldro hefyd yn berffaith ar gyfer pobl sy’n newydd i’r iaith. Mae’n cynnwys dau bennill a chytgan. Felly mae’n cynnig digon o eiriau newydd ond heb fod yn llethol.

Roeddwn i mor falch pan oeddwn i’n gallu dilyn y geiriau i gyd, ar ôl mynd nôl i wrando a chwilio am unrhyw eiriau anghyfarwydd (gan gynnwys enw’r gân!). Ar ôl darllen y geiriau sawl gwaith roeddwn i’n teimlo’n ddigon hyderus i’w chanu yn y gawod. Mae’n deimlad braf iawn pan ti’n gallu dilyn, deall a chanu cân i gyd.

Felly dyma gyflwyniad bach i gân wych sydd, gobeithio, am fod yn ffefryn i chi hefyd. Cofiwch wrando ar Radio Cymru wythnos yma i fwynhau’r holl ddathliadau ar gyfer Wythnos Dathlu Dysgu, achos beth yw dathliad heb gerddoriaeth?