Mae ffrind gyda fi sy’n dwlu ar hwylio ac yn dweud: “Mae popeth yn fwy o hwyl ar gwch!”

Er mwyn profi hyn, penderfynais fynd i harbwr Santa Barbara i weld y “Parêd Goleuadau” – gorymdaith o gychod sy’n cael ei chynnal cyn y Nadolig bob blwyddyn.

Disgo ar y mor Llun: Pawlie Bryant

Roedd y Parêd Goleuadau wedi dechrau yn 1987, ond do’n i erioed wedi bod i’w weld fy hun. Felly, wnes i benderfynu y byddai’r parêd yn bwnc diddorol ar gyfer fy ngholofn olaf eleni. Ac fel ‘dyn ni’n dweud yng Nghymru: “Gwell hwyr na hwyrach!”

Bob blwyddyn, mae thema arbennig gyda’r Parêd Goleuadau. “Strafagansa Disgo” oedd y thema eleni, felly ro’n i’n disgwyl cerddoriaeth, dawnswyr, ac o leiaf un bêl ddisgo yn ystod y parêd. Ches i ddim fy siomi.

Yn y prynhawn, dechreuodd yr hwyl ar y môr gyda chriw o bobl mewn gwisgoedd Nadolig yn padlfyrddio o gwmpas y pier. Roedd pobl wedi’u gwisgo fel Siôn Corn, coblynnod, ceirw, a phob math o gymeriadau ac yn padlfyrddio o gwmpas Stearns Wharf ac ar lan y traethau yn Santa Barbara. Roedd yn ffordd berffaith i agor y parêd.

Pobl yn padlfyrddio cyn yr orymdaith
Y cychod yn yr harbwr
Pawlie Bryant gyda’i gamera cyn y pared
Llun: Pawlie Bryant

 

 

Ar ôl machlud harddwych, gadawodd y cychod yr harbwr i ddechrau’r prif ddigwyddiad. Fesul un, aeth y cychod i gyd – mwy na 35 ohonyn nhw – allan o’r harbwr i ffurfio llinell hir ar hyd Traeth Leadbetter. Oddi yno, symudodd y parêd tuag at Stearns Wharf lle’r oedd y rhan fwyaf o bobl yn gwylio – gan gynnwys fi!

Roedd llawer o gychod gydag addurniadau clyfar. Diolch i dechnoleg LED, roedd y goleuadau ar y cychod yn lliwgar ac yn llachar – hyd yn oed ar y cychod heb lawer o bŵer. Yn ystod y parêd, roedd saith pêl ddisgo, dawnswyr, lot o gerddoriaeth o’r 1970au (wrth gwrs), a rhai oedd wedi dechrau dathlu oriau (ac oriau) cyn y Parêd!

Roedd y Parêd Goleuadau’n eithriadol, a ches i amser arbennigyn enwedig wrth wylio’r bobl ar y cychod. Ar ôl y parêd, roedd arddangosfa tân gwyllt ar y traeth i orffen y noson.

A nawr, dw i’n gallu cytuno efo fy ffrind: Mae popeth yn fwy o hwyl ar gwch!

Nadolig Llawen o Santa Barbara!

 

 

 

 

Yr arddangosfa tan gwyllt ar ol yr orymdaith