Mae Ollie Cooper, chwaraewr pêl-droed Abertawe, yn dysgu Cymraeg.
Mae ei gariad, Tanwen Cray, yn darlledu‘r tywydd ar S4C.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sgorio, roedd e wedi ateb dau gwestiwn yn Gymraeg.
“Ollie Cooper, croeso mawr i Sgorio. Sut wyt ti?” meddai’r gohebydd Sioned Dafydd.
“Da iawn, diolch. A ti?” meddai Ollie Cooper.
“Da iawn. Braf iawn bod ’nôl yn Abertawe.
“Ni wedi clywed bo ti’n dysgu Cymraeg, so ni’n mynd i wneud dau gwestiwn yn Gymraeg.
“Mae wedi bod yn dymor arbennig, sgorio yn erbyn Caerdydd, mae’n rhaid bod hwnna’n deimlad sbesial iawn?”
“Mae pob gôl yn sbesial iawn i fi, ond roedd yn grêt cael sgorio yn y gêm o flaen lot o ffans.”
“Roedd e’n grêt gweld ti’n sgorio,” meddai Sioned Dafydd.
“Cymru, lot o sôn bo ti’n mynd i fod yn y garfan. Faint byddai’n golygu i ti i chwarae dros Gymru?”
“Mae’n dream i fi chwarae i Gymru, a dw i’n gyffrous am y dyfodol.”
“Dal ati gyda’r Gymraeg,” meddai Sioned Dafydd.
Diolch @SionedDafydd am y cyfweliad, I really enjoyed doing the interview and thank you for helping me with the Welsh! 😁 https://t.co/9LU94EBYVO
— Oliver Cooper (@cooperollie11) February 7, 2023
Diolch yn fawr 😁 https://t.co/Jlo9sDRbLJ
— Oliver Cooper (@cooperollie11) February 7, 2023