Dych chi wedi bod i Sain Ffagan? Mae tua 50 o adeiladau hanesyddol yn Amgueddfa Werin Cymru mewn gerddi hyfryd. Mae mwy na 500,000 o bobl yn dod i’r amgueddfa bob blwyddyn. Mae’n cymryd dipyn o waith i edrych ar ôl yr hen adeiladau, y gerddi, a’r arddangosfeydd.

Mae’r gyfres Sain Ffagan ar S4C wedi bod yn edrych ar y gwaith yma o gynnal a chadw’r amgueddfa. Mae wedi rhoi cyfle i ddod i adnabod rhai o’r bobl sy’n gweithio yno. Mae llawer o’r staff yn dysgu Cymraeg. Mae Lingo360 wedi bod yn siarad gyda rhai ohonyn nhw.

Y tro yma Martyn Jones sy’n ateb ein cwestiynau. Mae o’n gweithio fel arolygydd gyda’r dydd yn Sain Ffagan.

Martyn, o ble dych chi’n dod?

Dw i’n dod o Aberfan wrth ymyl Merthyr Tudful.

Beth ydy’ch diddordebau chi?

Dw i’n aelod o gôr meibion Ynysowen o Aberfan.

Beth ydy’ch gwaith yn Sain Ffagan ac ers pryd dych chi wedi bod gweithio yn yr amgueddfa?

Dw i wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers 2015. Dw i’n arolygydd felly dw i’n gyfrifol am reoli staff, sicrhau diogelwch y safle a’r casgliadau, a delio gyda chontractwyr ymhlith pethau eraill.

Beth dych chi’n mwynhau am y gwaith?

Fy hoff beth yw’r cyfle i siarad Cymraeg bob dydd. Dw i’n hoffi cyfarfod a siarad gyda’r ymwelwyr hefyd.

Ers pryd dych chi wedi bod yn dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn astudio Cymraeg ers sawl blwyddyn.

Roeddwn i’n Dditectif gyda Heddlu Gwent. Cefais gefnogaeth ganddyn nhw i ddysgu Cymraeg yng Ngholeg Gwent. Ar ôl ymddeol cychwynnais weithio yn Sain Ffagan. Amgueddfa Cymru wnaeth gefnogi fi i ddatblygu fy nysgu yng Ngholeg Morgannwg.

Dw i’n lwcus iawn i fod yn Sain Ffagan ac yn ddiolchgar iawn hefyd – y lle gorau i ddysgu Cymraeg. Mae fy nghydweithwyr yn athrawon gwych.

Beth sydd mor arbennig am Sain Ffagan?

Mae pob diwrnod yn wahanol yn Sain Ffagan. Rydyn ni’n cwrdd â phobl o bob cwr o’r byd. Mae’n rhoi cyfle i ni arddangos ein hunaniaeth, diwylliant, ac yn bwysicaf, ein hiaith.

Mae’r gyfres Sain Ffagan ar S4C Nos Fercher, 26 Ebrill, 8.25yh