Mae rygbi yn helpu Prif Weithredwr newydd Undeb Rygbi Cymru i ddysgu Cymraeg.

Bydd Abi Tierney yn gwneud sesiwn dysgu Cymraeg ar y thema rygbi.

Cafodd hi ei phenodi i’w swydd newydd yn ddiweddar.

Bydd gwers flasu rithiol, sydd wedi cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar Fedi 6 am 7 o’r gloch.

Bydd ymadroddion a geiriau pwysig yn cael eu cyflwyno i Abi Tierney, a bydd y wers yn annog cefnogwyr i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc fis nesaf.

Cafodd partneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei lansio yn Sioe Fawr Llanelwedd fis diwethaf, i helpu staff Undeb Rygbi Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd mwy na 100 o staff yn cael gwersi Cymraeg bob wythnos o fis Tachwedd ymlaen, gan ddefnyddio adnoddau‘r Ganolfan.

‘Edrych ymlaen’

“Dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Abi i’r sesiwn flasu, ac yn falch bod nifer o staff y sefydliad wedi cofrestru hefyd,” meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae’n gyffrous bod cymaint ohonyn nhw yn dymuno cryfhau eu sgiliau Cymraeg, a dyn ni’n dymuno’r gorau i bob un ohonyn nhw.

“Dyma ddechrau’r daith gydag Undeb Rygbi Cymru, a dyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu cynlluniau ar y cyd, i greu mwy o gyfleoedd i gefnogwyr rygbi Cymru ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.”

Mae Abi Tierney yn “edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn flasu”.

“Fel un o brif sefydliadau Cymru, dyn ni’n falch iawn o dderbyn y cyfrifoldeb a’r fraint o hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.”