I lawer o siaradwyr newydd, mae meddwl am ysgrifennu stori yn y Gymraeg yn gallu bod yn anodd. Ond ar wefannau bro, rydym yn croesawu eich stori. Mae yna 12 gwefan fro yn rhan o rwydwaith Bro360 erbyn hyn, felly ewch i chwilio am eich gwefan chi!

Mae yna newyddion lleol, straeon lleol, ac mae’n lle braf i deimlo’n rhan o’ch milltir sgwâr.

Felly sut mae rhoi stori ar eich gwefan fro?

  1. Creu cyfrif gyda’ch gwefan fro, a chadarnhau e-bost.
  2. Meddwl am syniad stori.
  3. Gwasgu botwm ‘Creu’ ar eich gwefan fro.

Pa fath o straeon dach chi’n medru ysgrifennu? Unrhyw beth sy’n ddiddorol!

Beth am sgwennu stori sydd yn dangos eich hoff bethau neu lefydd yn eich milltir sgwâr? Gallwch dynnu lluniau o’r pethau rydych yn hoffi, a’u rhoi ar eich gwefan fro gyda chapsiwn. Efallai bydd hyn yn gyfle i ddangos rhannau newydd o’r ardal i bobl leol.

Oes yna arwr yn eich pentref? Neu berson diddorol iawn hoffech chi gyfweld? Gallwch chi baratoi tua 10-20 cwestiwn i’w gofyn, a chyhoeddi’r atebion. Bydd pobl leol yn hoffi’r math yma o stori!

Os ydych yn aelod o glwb, yna mae gennych chi stori yn barod! Mae unrhyw fath o newyddion am glwb chwaraeon, canu, siarad Cymraeg ayyb yn beth grêt i gael ar wefan fro. Mae pobl leol yn awyddus i gael newyddion am bob math o glybiau.

Beth am sgwennu am eich taith i ddysgu Cymraeg? Does dim rhaid sgwennu stori, ond efallai gallwch chi recordio fideo gyda dysgwr arall. Gallwch recordio sgwrs gyda chwestiynau yn sôn am eich hanes chi a’r iaith Gymraeg. Bydd hyn efallai yn ysbrydoli pobl eraill i geisio dysgu’r iaith! Felly dyna rai syniadau i chi am y math o bethau gallwch rannu ar eich gwefan fro. Ewch amdani!