Yn ystod fy ymweliad â Chymru eleni, ro’n i’n lwcus gyda’r tywydd yn gyffredinol. Ond, wrth gwrs, roedd ychydig o ddyddiau pan oedd rhaid osgoi’r glaw. Fel dwedodd fy ffrind Huw pan ddechreuodd hi fwrw glaw’n drwm un diwrnod yn y de: “Croeso i Gymru!”

Ar fy niwrnod cynta’ yn y gogledd, deffrais yn fy ‘stafell ym Mhorthmadog a throi’r teledu ymlaen i weld rhagolygon y tywydd ar S4C. Newyddion drwg – roedd yn dweud “glaw trwm drwy’r dydd.” O, na! Ond ro’n i wedi teithio ymhell o Galiffornia, felly roedd rhaid i fi fynd allan i weld yr ardal beth bynnag.

 Penderfynais beidio â chrwydro’n rhy bell o Borthmadog rhag ofn bod y glaw yn gwneud gyrru’n anodd. Gyrrais tuag at Ben Llŷn, gyda’r syniad o ymweld â Nant Gwrtheyrn (bydd colofn am hyn yn y dyfodol). Ar fy ffordd drwy ganol tref Cricieth, gwelais gastell ar ben bryn wrth y môr – Castell Cricieth – un nad o’n i wedi’i weld ar y map. Roedd hi wedi dechrau bwrw glaw’n drwm, felly gyrrais o gwmpas Pen Llŷn am gwpl o oriau cyn mynd yn ôl i Gastell Cricieth.

Castell Cricieth o fryn y dref

Cafodd Castell Cricieth ei adeiladu yn 1230 gan Llywelyn ap Iorwerth, a’i ymestyn rhwng 1255 a 1282 gan ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd. Roedd Edward I a II wedi adeiladu rhannau ychwanegol yn 1327, nes i’r cestyll gael eu cipio yn ôl gan Owain Glyndŵr fel rhan o’r gwrthryfel yn 1404.

Mae’n hawdd gweld pam fod pobl eisiau cipio’r castell dros y canrifoedd: mae’n eistedd ar ben bryn bach uwchben y dre, gyda golygfeydd dros yr holl ardal. Does dim syndod bod pobl wedi ymladd dros Gastell Cricieth — mae’n lleoliad perffaith.

Fel ysgrifennodd y cerddor/cyfansoddwr o America, Kevin Gilbert:

Adeiladais fy nhŷ,

Adeiladais ef ar fryn —

Er mwyn gweld fy ngelyn o bob cyfeiriad

…mae’n rhaid bod Kevin wedi byw yng Nghastell Cricieth!

 Pan giliodd y glaw, es i yn ôl i Gricieth i weld y castell. Ro’n i’n gallu parcio’n agos at y castell rhag ofn i’r glaw ailddechrau ond, am y tro, roedd hi’n sych gyda chymylau dramatig – perffaith ar gyfer tynnu lluniau gyda fy nghamera!

Es i mewn, lle des i o hyd i siop anrhegion a swyddfa docynnau. Ro’n i wedi bod yn prynu llyfrau swfenîr swyddogol ym mhob castell hyd yn hyn, felly’r tro ‘ma penderfynais gael y fersiwn Cymraeg. Gofynnais i’r person yn y siop am gopi Cymraeg, ond edrychodd hi arna i’n rhyfedd. “Ydych chi’n siarad Cymraeg?” meddai. “Ydw,” meddwn – “dw i’n dysgu ers y llynedd.”

Tyrau’r castell

 Yn amlwg, doedd hi ddim yn siŵr a ddylai hi werthu copi Cymraeg i fi!

Dechreuodd hi ofyn cwestiynau, yn Gymraeg, i weld os o’n i’n deilwng o gopi Cymraeg. “Ble dych chi’n byw?” “Pwy yw eich athro Cymraeg?” “Pa brifysgol?” “Ydych chi’n siŵr, copi Cymraeg?” Ar ôl i fi basio ei ‘harholiad’ aeth hi i nôl copi Cymraeg o’r llyfr am Gastell Cricieth, argraffu tocyn i fynd i mewn i’r castell, a dweud, “un ar ddeg punt, saith deg pump, plîs.”

Talais i, a gwenais arni. Dw i’n credu ei bod hi wedi gwenu’n ôl, ond dw i ddim yn siŵr!

Golgyfa o’r castell dros y bae

 Ar ôl i fi gerdded i fyny’r allt i’r castell, ces i fy ngwobryo am basio’r cwis Cymraeg yn y siop: castell bach swynol, dim ymwelwyr eraill o gwbl, golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad, a dim glaw o hyd. Hwrê.

Treuliais tuag awr yn cerdded o gwmpas y castell ac yn mwynhau’r golygfeydd dros y dre, dros y môr, ac i lawr yr arfordir. Roedd yn fraint bod mewn lle hardd a hanesyddol fel Castell Cricieth ar fy mhen fy hun, ar goll yn fy meddyliau, yn myfyrio ar bopeth oedd wedi dod â fi yno yn y foment yna.

Yna… dechreuodd fwrw glaw eto. Ac yn drwm. Amser i fynd i eistedd yn y car.

 Cyn i fi ddechrau cerdded yn ôl i lawr y bryn, meddyliais am yr holl ryfeloedd oedd wedi cael eu hymladd yno dros y canrifoedd. Synfyfyriais am sefyllfa Owain Glyndŵr yn 1404. Beth oedd e’n meddwl wrth sefyll yn yr union fan yma?

Wedyn, sylweddolais beth oedd Glyndŵr mwy na thebyg yn meddwl, wrth i’r byddinoedd agosáu – y milwyr Saesnig yn llithro’n ôl i lawr y bryn, wedi’u gorchuddio â mwd, yn y glaw trwm:

“Croeso i Gymru!”

Aros yn y car i osgoi’r glaw