Mae enwau enillwyr medalau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 wedi cael eu cyhoeddi.

Gwilym Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr (Blwyddyn 10 ac o dan 19 oed).

Yvon-Sebastien Landais (Seb) o Ddinbych y Pysgod sydd wedi ennill Medal Bobi Jones.

Pwrpas cystadleuaeth Medal Bobi Jones yw gwobrwyo pobol 19 i 25 oed sy’n dysgu Cymraeg.

Mae Medal y Dysgwyr yn gwobrwyo pobol ifanc Blwyddyn 10 hyd at 19 oed.

I ennill y fedal, roedd rhaid i’r cystadleuwyr ddangos sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith, ac yn gymdeithasol, a sut maen nhw’n hyrwyddo‘r Gymraeg i bobol eraill.

Gwilym Morgan

Medal y Dysgwyr

Roedd 11 o bobol wedi cystadlu.

Roedden nhw wedi cael sawl tasg, gan gynnwys ysgrifennu brawddegau yn cyflwyno’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol, gwneud cyfweliad gyda’r beirniaid Gwyneth Price a Rhodri Siôn, a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Wyn Jones, Llywydd y Dydd.

Mae Gwilym Morgan yn mynd i Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, a dechreuodd e ddysgu Cymraeg ar gyfer Lefel A.

Roedd ei fam wedi dechrau dysgu Cymraeg yn 2015.

Dywedodd Gwilym: “Penderfynais i ddysgu Cymraeg achos dw i’n caru’r iaith.

Yn ddiweddar, dw i wedi ymuno â’r Urdd i gael mwy o gyfleoedd.”

Daisy Haikala o Lanfaes yn Aberhonddu oedd yn ail, a Niki Scherer o Fangor yn drydydd.

Medal Bobi Jones: 19-25 oed

Does neb arall yn nheulu Seb Landais yn siarad Cymraeg.

Ond roedd ei hen-hen fam-gu a hen-hen dad-cu yn siarad Cymraeg.

Dechreuodd e ddysgu Cymraeg ar-lein gyda Duolingo, ac mae’n mwynhau siarad yr iaith bob cyfle.

“Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos Cymro dw i, a dw i eisiau mynd drwy Cymru a siarad gyda phobol yn Gymraeg,” meddai.

“Pryd bynnag dw i gyda phobol Cymraeg, dw i eisiau siarad gyda nhw yn Gymraeg hefyd.”