Dych chi’n hoffi stori arswyd? Dyma stori fer gan Irram Irshad i godi gwallt eich pen! Mae Irram yn fferyllydd sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu Cymraeg. Fe fydd hi’n cyhoeddi casgliad o straeon byrion a barddoniaeth yn y gwanwyn…
Roeddwn i’n gallu gweld goleuadau Rockmoor yn y pellter o’r fan lle ro’n i’n sefyll. Roedd y goleuadau’n disgleirio yn y tywyllwch. Roedd oerfel mis Rhagfyr yn brathu fy wyneb a fy nghefn yn dechrau brifo o dan bwysau fy mag cynfas. “Dyw e ddim yn bell nawr,” dywedais wrth fy hun, “Jest angen dal ati…”
Edrychais mor bell i’r duwch ag y gallwn, doedd dim ffyrdd i’w gweld yn unman. Byddai hi’n daith gerdded hir o’r rhos i’r dref.
Defnyddiais fy nhorch boced i edrych o gwmpas. Roedd y pant i’r dyffryn yn eitha’ serth, ond ar yr ochr chwith roedd rhywfaint o goetir. Gwelais arwydd yn dweud ‘Rockmoor’, oedd yn fy nghyfeirio tuag at lwybr cul drwy jyngl o goed. Penderfynais ddilyn y llwybr hwn a fyddai, gobeithio, yn fy arwain at fy nghyrchfan cyn gynted â phosibl.
Caeodd y coed i mewn arna’i, gan fy nal fel carcharor. Roedd Rockmoor i weld ymhellach i ffwrdd erbyn hyn. Dechreuais boeni. Oeddwn i wedi gwneud y penderfyniad anghywir i ddilyn y llwybr hwn?
Clywais sŵn traed y tu ôl i fi gan wneud i droi rownd yn gyflym. Chwifiais fy nhorch o gwmpas, ond welais i neb. O’n i’n meddwl mai fy nychymyg oedd yn chwarae triciau arna’i.
Roeddwn i wedi mynd yn rhy bell i mewn i’r coed i droi nôl nawr felly doedd dim dewis ond cario mlaen. O gornel fy llygad, gwelais fflach o wyn. Sefais yn llonydd, fy nghalon yn curo. Beth oeddwn i wedi ei weld? Dyna’r fflach eto, yn symud yn gyflym drwy’r coed. Roedd golau’r torch yn pwyntio yn syth at y ffigwr mewn gwisg wen.
Hi oedd y person harddaf i mi weld erioed. Gwallt tywyll yn disgyn mewn tonnau i lawr ei hysgwyddau, ei ffrog yn gain, o sidan gwyn gyda choler uchel. Roedd y ffrog yn edrych braidd yn hen ffasiwn. Roedd yn edrych fel gwisg oedd yn perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac nid diwedd yr ugeinfed ganrif. Roedd hi’n syllu arna’i gyda’i llygaid llachar. Ges i fy syfrdanu. Ai ofn oedd yn ei llygaid? Cyn i mi allu dweud dim, fe wnaeth hi ddiflannu, gan redeg i mewn i dduwch y nos.
Cerddais i’r fan lle’r oedd hi wedi sefyll. Fflachiodd rhywbeth ar y llawr. Gwelais loced siâp calon arian ar y llawr. Roedd yr enw ‘Sarah’ wedi’i ysgythru ar y cefn. Sarah – enw tlws ar ferch bert. Rhoddais y loced yn fy mag. Petawn i’n dod ar ei thrawshi eto, byddwn i’n ei rhoi iddi. Os na, byddwn i’n ei gadael yng ngorsaf yr heddlu yn Rockmoor wrth y ddesg eiddo coll. Ond beth ar y ddaear oedd y ferch yn gwneud yn y goedwig, heb gôt, ar noson oer o aeaf?
Roedd yr oerfel yn fy amgylchynu, gan fy atgoffa bod yn rhaid i mi gyrraedd Rockmoor cyn i mi farw o niwmonia.
Dim ond ychydig lathenni yr oeddwn i wedi cerdded pan glywais sgrech iasol yn torri tawelwch y nos. Yn reddfol, rhedais oddi ar y llwybr, drwy’r coed, i’r cyfeiriad lle’r oedd y sgrech wedi dod.
Roedd golygfa ofnadwy yn fy aros. Roedd y ferch yn gorwedd ar y llawr, ei gwisg wen hyfryd yn waed i gyd. Yn pwyso dros ei chorff roedd ffigwr tywyll mewn clogyn hir. Roeddwn i’n siŵr mai dyn oedd e. Roedd cyllell hir gyda llafn finiog yn sgleinio yng ngolau’r torch. Roedd y gyllell yn diferu â gwaed.
Edrychodd i fyny’n gyflym tuag ata’i, a wnes i ollwng y torch mewn braw. Roedd y golau wedi diffodd. Roedd y coed a’r tywyllwch yn fy amgylchynu.
Rhedais mor gyflym ag y gallwn i, heb wybod i ble roeddwn i’n mynd na beth oeddwn i’n mynd i’w wneud. Fe wnes i faglu dros wreiddiau’r coed a boncyffion. Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i’r llwybr yn y tywyllwch. Petawn i heb ollwng y torch…
Wnes i stopio, i ddal fy anadl. Roedd fy ochrau’n brifo, fy nghoesau’n drwm, a fy nghalon yn curo’n llawer rhy gyflym.
Clywais rywun yn rhedeg tuag ata’i, gan ddod yn agosach ac yn agosach.
Byddai’n rhaid i fi ddod o hyd i’r llwybr. Pam oeddwn i wedi bod mor ddwl â dod i mewn i’r coed? Nid yn unig oeddwn i ar goll, ond roeddwn i hefyd yn sownd ynghanol unlle gyda llofrudd ar fy ôl i. Dechreuodd y dagrau lifo i lawr fy mochau. Doeddwn i ddim eisiau marw fel y ferch welais i.
Dechreuais i redeg eto ond roedd yn teimlo fel fy mod i’n rhedeg drwy driog. Roedd y ddaear yn teimlo’n simsan o dan fy nhraed. Ro’n i’n teimlo’n sâl, yn oer ac yn flinedig. Ro’n i jyst eisiau bod nôl adref, gyda fy nheulu, a chysgu yn fy ngwely cynnes.
Clywais sŵn y gyllell yn dod i lawr tuag ata’i cyn i mi deimlo’r boen rhwng fy ysgwyddau. Fe wnes i sgrechian mewn poen a syrthio’n araf i’r llawr. Roedd delweddau o fy nheulu, fy ffrindiau, a fy nghartref yn fflachio o flaen fy llygaid. Roedd y tywyllwch yn fy llyncu a doedd dim mwy o boen.
*******************************
Teimlais y dwylo cynnes ar fy mreichiau, a chlywed sgrech – fi?. Daeth lleisiau ata’i, ond doedden nhw ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Agorais fy llygaid yn araf a gweld wynebau aneglur o’m blaen. Roedd yn gynnes ac yn olau yn yr ystafell. Clywais fy mam ond roedd hi’n swnio’n bell i ffwrdd.
“Mae’n iawn, Lucy. Ti wedi cael breuddwyd ddrwg. Dw i yma. Paid â phoeni cariad.”
Ar ôl ychydig, daeth yr ystafell a’r bobl yn gliriach. Gwelais fy chwaer fach Annie, yn sefyll wrth ddrws fy ystafell wely, a fy nhad wrth droed fy ngwely. Roedd wyneb pryderus Mam yn edrych lawr arna’i. Gwenais yn wan ac yna syrthio’n ôl i gysgu.
Doeddwn i ddim yn gallu cofio llawer. Dywedais wrth fy mam am beth oedd wedi digwydd, ond dywedodd nad oedd y fath le â Rockmoor yn y Deyrnas Unedig. Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi bod allan y noson honno! Mae’n rhaid mod i wedi breuddwydio popeth.
Roedd wedi ymddangos mor real, roeddwn i dal yn gallu teimlo’r boen lle’r oedd metel oer y gyllell wedi torri fy nghnawd. Fe wnes i grynu wrth feddwl am y peth. Dim mwy o wylio ffilmiau arswyd o hyn ymlaen!
Bythefnos yn ddiweddarach fe benderfynodd fy rhieni fynd â fy chwaer a fi i dreulio’r Nadolig gyda fy Modryb Marianne yng Nghaerdydd. Tynnais fy mag cynfas allan o waelod y cwpwrdd i ddechrau pacio. Agorais y sip a syrthiodd rhywbeth allan. Fe wnes i blygu i lawr i’w godi.
Roedd yn loced fach siâp calon arian gyda’r enw ‘Sarah’ wedi’i ysgythru ar y cefn…