Beth allech chi roi i’r dysgwr Cymraeg sy gyda phopeth? Llyfrau, wrth gwrs.

Ac os yw prynu llyfrau’n golygu cefnogi eich siop lyfrau leolgorau oll!

Mae’r gyfres Amdani yn lle ardderchog i ddechrau. Cafodd Amdani ei lansio yn 2018 fel prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae’n cynnwys bron i 40 teitl. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb: straeon ditectif, hunangofiannau, nofelau serch, comedi, straeon byrion, hanes, chwaraeon, a mwy.

Ers i fi ddechrau dysgu Cymraeg ym mis Medi 2022, dw i wedi darllen 18 llyfr Amdani. Dechreuais i gyda llyfrau lefel Mynediad, wedyn camu i fyny i lyfrau Sylfaen ynghanol y cwrs i gael mwy o her. Dw i newydd orffen fy ail lyfr Canolradd, ac yn dal i ddarllen bob nos. Rhwng fy nghyrsiau, colofnau, darllen – dw i’n brysur iawn gyda fy Nghymraeg!

Tri theitl i Ddysgwyr

Beth yw fy hoff lyfrau Amdani hyd yn hyn? Dw i wedi mwynhau bob un, ond dyma’r teitlau oedd yn fwya’ cofiadwy i fi, a pham:

  • Lefel Mynediad — Gangsters yn y Glaw gan Pegi Talfryn, gyda gwaith celf gan Hywel Griffith (44 tudalen). Er ei fod wedi ei ysgrifennu ar gyfer dysgwyr Mynediad, mae Gangsters yn y Glaw yn dweud stori ddiddorol fydd yn ysbrydoli chi i gadw mlaen i ddarllen. Stori Elsa Bowen yw hi, ditectif sy’n gweld rhywbeth drwgdybus mewn siop lyfrau allech chi gredu? Perffaith ar gyfer dysgwyr yn eu blwyddyn gyntaf.
  • Lefel Sylfaen — Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda gan Siôn Tomos Owen, gyda darluniadau gan yr awdur ei hun (80 tudalen). Profiad hyfryd o’r dechrau i’r diwedd oedd y casgliad straeon hwn gan yr awdur, darlunydd, tiwtor creadigol, a chyflwynydd radio a theledu Siôn Tomos Owen. Perffaith i ddarllenwyr sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn neu fwy. Mae Y Fawr a’r Fach yn cynnig straeon byrion difyr am dyfu i fyny yn Y Cymoedd, teulu, ffrindiau, cerddoriaeth, rygbi — a hyd yn oed UFOs – wedi’u hadrodd gan storïwr arbennig.
  • Lefel Canolradd — Croesi’r Bont gan Zoe Pettinger, gyda lluniau gan Lisa Osborne (57 tudalen). Mae llawer o opsiynau ar gyfer darllenwyr Canolradd a thu hwnt, ond roedd rhywbeth am y casgliad straeon byrion hwn oedd yn fy nghadw i’n troi’r tudalennau. Mae pum stori sy’n mynd â’r darllenydd ar daith trwy fydoedd llawn cariad, cyfeillgarwch, ffantasi, a dosbarthiadau Cymraeg – bob amser gyda chalon, dyfnder, a throeon plot clyfar.

Cefnogwch eich siop lyfrau leol

Dw i’n awgrymu mynd i’ch hoff siop lyfrau leol i gwrdd â’r bobl sy’n gweithio yno, a gwneud cysylltiad gyda nhw. Mae’n ffordd wych i gael llawer o syniadau ar gyfer llyfrau Cymraeg, ond hefyd ffordd anhygoel i wneud ffrindiau Cymraeg newydd.

Pan o’n i yn Ne Cymru eleni, es i siop Cant a mil yng Nghaerdydd i brynu llyfrau Cymraeg. Ro’n i wedi cysylltu â pherchennog y siop, Jo Knell, cyn i fi gyrraedd Cymru – felly pan gerddais i mewn i’r siop, ces i groeso cynnes iawn gan Jo, Catrin, a Cath.

Dros baned o de, awgrymon nhw tua 25 llyfr oedd yn berffaith i fi tra’n sgwrsio gyda fi yn Gymraeg (yn amyneddgar!) am fwy nag awr. Cynigiodd Jo eu hanfon ata’i drwy’r post, fel bod dim angen cario’r holl lyfrau adre ar yr awyren. Dw i erioed wedi cael profiad fel hynny mewn unrhyw siop yn fy mywyd – unrhyw le yn y byd!

Pan gyrhaeddais yn ôl adre sawl wythnos wedyn, roedd parsel mawr yn aros i fi oddi wrth Cant a mil. Yn y parsel gyda’r llyfrau oedd cerdyn hyfryd gan Jo a’r staff – i ddweud “diolch” i fi eto am ddod i ymweld â’r siop yn ystod fy nhaith.

Wrth i fi agor y parsel a darllen y cerdyn, allwn i ddim stopio meddwl am un o fy hoff ddywediadau yma yn Santa Barbara:

“Cefnogwch eich siop lyfrau leol!”

Diolch o galon, Cant a mil.


Mwy am y Gyfres Amdani

Mae pedwar lefel i’r gyfres sy’n cyd-fynd gyda’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg (Mynediad, Sylfaen, Canolradd, ac Uwch). I helpu dysgwyr o bob lefel, mae geirfa ddefnyddiol ar waelod bob tudalen yn ogystal ag adran eirfa lawn yng nghefn bob llyfr.

Mae llyfrau Amdani ar gael yn eich siop lyfrau leol, a hefyd drwy wefan Gwales.cymru os does dim siopau yn eich ardal chi. A nawr, mae llyfrau Cyfres Amdani ar gael mewn fformat sain drwy Audible.com.