Beth allech chi roi i’r dysgwr Cymraeg sy gyda phopeth? Llyfrau, wrth gwrs.
Ac os yw prynu llyfrau’n golygu cefnogi eich siop lyfrau leol — gorau oll!
Mae’r gyfres Amdani yn lle ardderchog i ddechrau. Cafodd Amdani ei lansio yn 2018 fel prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac erbyn hyn mae’n cynnwys bron i 40 teitl. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb: straeon ditectif, hunangofiannau, nofelau serch, comedi, straeon byrion, hanes, chwaraeon, a mwy.
Ers i fi ddechrau dysgu Cymraeg ym mis Medi 2022, dw i wedi darllen 18 llyfr Amdani. Dechreuais i gyda llyfrau lefel Mynediad, wedyn camu i fyny i lyfrau Sylfaen ynghanol y cwrs i gael mwy o her. Dw i newydd orffen fy ail lyfr Canolradd, ac yn dal i ddarllen bob nos. Rhwng fy nghyrsiau, colofnau, darllen – dw i’n brysur iawn gyda fy Nghymraeg!
Tri theitl i Ddysgwyr
Beth yw fy hoff lyfrau Amdani hyd yn hyn? Dw i wedi mwynhau bob un, ond dyma’r teitlau oedd yn fwya’ cofiadwy i fi, a pham:
- Lefel Mynediad — Gangsters yn y Glaw gan Pegi Talfryn, gyda gwaith celf gan Hywel Griffith (44 tudalen). Er ei fod wedi ei ysgrifennu ar gyfer dysgwyr Mynediad, mae Gangsters yn y Glaw yn dweud stori ddiddorol fydd yn ysbrydoli chi i gadw mlaen i ddarllen. Stori Elsa Bowen yw hi, ditectif sy’n gweld rhywbeth drwgdybus mewn siop lyfrau – allech chi gredu? Perffaith ar gyfer dysgwyr yn eu blwyddyn gyntaf.
- Lefel Sylfaen — Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda gan Siôn Tomos Owen, gyda darluniadau gan yr awdur ei hun (80 tudalen). Profiad hyfryd o’r dechrau i’r diwedd oedd y casgliad straeon hwn gan yr awdur, darlunydd, tiwtor creadigol, a chyflwynydd radio a theledu Siôn Tomos Owen. Perffaith i ddarllenwyr sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn neu fwy. Mae Y Fawr a’r Fach yn cynnig straeon byrion difyr am dyfu i fyny yn Y Cymoedd, teulu, ffrindiau, cerddoriaeth, rygbi — a hyd yn oed UFOs – wedi’u hadrodd gan storïwr arbennig.
- Lefel Canolradd — Croesi’r Bont gan Zoe Pettinger, gyda lluniau gan Lisa Osborne (57 tudalen). Mae llawer o opsiynau ar gyfer darllenwyr Canolradd a thu hwnt, ond roedd rhywbeth am y casgliad straeon byrion hwn oedd yn fy nghadw i’n troi’r tudalennau. Mae pum stori sy’n mynd â’r darllenydd ar daith trwy fydoedd llawn cariad, cyfeillgarwch, ffantasi, a dosbarthiadau Cymraeg – bob amser gyda chalon, dyfnder, a throeon plot clyfar.
Cefnogwch eich siop lyfrau leol
Dw i’n awgrymu mynd i’ch hoff siop lyfrau leol i gwrdd â’r bobl sy’n gweithio yno, a gwneud cysylltiad gyda nhw. Mae’n ffordd wych i gael llawer o syniadau ar gyfer llyfrau Cymraeg, ond hefyd ffordd anhygoel i wneud ffrindiau Cymraeg newydd.
Pan o’n i yn Ne Cymru eleni, es i siop Cant a mil yng Nghaerdydd i brynu llyfrau Cymraeg. Ro’n i wedi cysylltu â pherchennog y siop, Jo Knell, cyn i fi gyrraedd Cymru – felly pan gerddais i mewn i’r siop, ces i groeso cynnes iawn gan Jo, Catrin, a Cath.
Dros baned o de, awgrymon nhw tua 25 llyfr oedd yn berffaith i fi tra’n sgwrsio gyda fi yn Gymraeg (yn amyneddgar!) am fwy nag awr. Cynigiodd Jo eu hanfon ata’i drwy’r post, fel bod dim angen cario’r holl lyfrau adre ar yr awyren. Dw i erioed wedi cael profiad fel hynny mewn unrhyw siop yn fy mywyd – unrhyw le yn y byd!
Pan gyrhaeddais yn ôl adre sawl wythnos wedyn, roedd parsel mawr yn aros i fi oddi wrth Cant a mil. Yn y parsel gyda’r llyfrau oedd cerdyn hyfryd gan Jo a’r staff – i ddweud “diolch” i fi eto am ddod i ymweld â’r siop yn ystod fy nhaith.
Wrth i fi agor y parsel a darllen y cerdyn, allwn i ddim stopio meddwl am un o fy hoff ddywediadau yma yn Santa Barbara:
“Cefnogwch eich siop lyfrau leol!”
Diolch o galon, Cant a mil.
Mwy am y Gyfres Amdani
Mae pedwar lefel i’r gyfres sy’n cyd-fynd gyda’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg (Mynediad, Sylfaen, Canolradd, ac Uwch). I helpu dysgwyr o bob lefel, mae geirfa ddefnyddiol ar waelod bob tudalen yn ogystal ag adran eirfa lawn yng nghefn bob llyfr.
Mae llyfrau Amdani ar gael yn eich siop lyfrau leol, a hefyd drwy wefan Gwales.cymru os does dim siopau yn eich ardal chi. A nawr, mae llyfrau Cyfres Amdani ar gael mewn fformat sain drwy Audible.com.