Dych chi’n dysgu Cymraeg ac eisiau clywed profiadau rhai dysgwyr eraill? Mae hi’n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar BBC Radio Cymru rhwng 15 a 21 Hydref. Bydd lleisiau dysgwyr i’w clywed ar y radio fel rhan o’r wythnos.
Bydd rhaglenni Radio Cymru – gan gynnwys rhai Aled Hughes, Shân Cothi a Caryl Parry Jones – yn sgwrsio gyda dysgwyr a thiwtoriaid am eu profiadau o ddysgu Cymraeg.
Fysech chi’n hoffi gofyn cwestiynau i rai o gyflwynwyr Radio Cymru? Bydd cyfle i ddysgwyr Canolradd, Uwch a Gloywi i holi rhai o’r prif gyflwynwyr mewn sesiwn rithiol nos Lun 16 Hydref am 7yh. Bethan Rhys Roberts, Iwan Griffiths a Mirain Iwerydd ydy rhai o’r cyflwynwyr sy’n cymryd rhan yn y sesiwn.
‘Braint’
Mae Aled Hughes yn dweud: “Dwi wir yn edrych ymlaen at yr wythnos sydd ganddon ni ar Radio Cymru. Mi fydd cael bod yn rhan o’r cynllun siarad a dod i adnabod siaradwr newydd wyneb yn wyneb yn fraint wrth gael bod yn rhan fach o’u siwrne nhw tuag at y Gymraeg.”
Dyma rai o’r pethau sy’n digwydd yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg Radio Cymru:
Bydd Podlediad Pigion yr Wythnos yn cael ei gyflwyno gan Joe Healy sef Dysgwr y Flwyddyn 2022. Bydd y podlediad i’w glywed ar Hydref 17.
Sesiwn Zoom gyda rhai o gyflwynwyr Radio Cymru – Hydref 16, 7pm -7.45pm – Bydd Helen Prosser yn holi Mirain Iwerydd, Bethan Rhys Roberts ac Iwan Griffiths.
Fy Achau Cymraeg – Bydd yr awdures Jane Blank yn olrhain ei hachau Cymraeg. Cafodd y rhaglen gyntaf ei darlledu ar Hydref 8 a bydd yr ail ar Hydref 15.
Cymru Fyw Dydd Llun Hydref 16 – Ateb y Galw gyda Joseff Gnagbo sef Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith
Rhaglen Aled Hughes – 9am-11am – Dydd Mercher, Hydref 18 – Sgwrs
gyda Dafydd Emrys Jones, Cincinnati, Ohio sydd yn ei 70au ac yn dysgu siarad Cymraeg.
Ffion Emyr – Dydd Gwener, Hydref 20 – 9pm –12pm – Bydd sgwrs gyda Francesca Sciarrillo, colofnydd Lingo360 a Lingo Newydd. Mae Francesca yn ffilmio rhaglen newydd o’r enw ‘Y Sîn’ efo Joe Healy. Mae Francesca yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru ac mae hi am roi tips i Ffion pa lyfrau i’w darllen.