Mae mwy o bobl ifanc yn dysgu Cymraeg. Dyna beth mae Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dweud.
Mae hi’n dweud bod nifer y bobol rhwng 18 a 25 oed sy’n dysgu Cymraeg wedi dyblu ers y llynedd.
Mae Helen Prosser wedi bod yn siarad gyda Mewnolwg, podlediad newydd golwg360. Mae hi wedi bod yn siarad am effaith y pandemig ar faint o bobol sy’n siarad Cymraeg.
Ers mis Medi 2022, mae’r Ganolfan wedi bod yn cynnig gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i bobol 18-25 oed.
‘Newid am byth’
Ar y podlediad, mae Helen Prosser a’r Athro Enlli Thomas o Brifysgol Bangor yn siarad am Covid-19 a’r iaith Gymraeg.
Mae Cyfrifiad 2021 yn dangos bod llai o bobol – yn enwedig plant – yn siarad Cymraeg erbyn hyn.
Mae Helen Prosser, Enlli Thomas, y cyflwynydd Elen Ifan, a Cadi Dafydd o golwg360 yn siarad am blant yn siarad Cymraeg ers Covid, effaith y pandemig ar fusnesau a chwmnïau, a mwy o siaradwyr Cymraeg newydd.
Roedd 32% yn fwy o siaradwyr Cymraeg newydd yn 2019-20 na 2018-19, am “gyfuniad o ffactorau”.
Mae Helen Prosser yn dweud bod “y sector dysgu Cymraeg i oedolion wedi newid am byth”, bod 95% o’r gwersi wyneb-yn-wyneb cyn Covid, a bod gwersi rhithiol wedi achub y sector.
“Ro’n ni wedi colli pobol hefyd, pobol doedd methu ymdopi â’r dechnoleg.
“Ro’n ni wedi colli llawer o diwtoriaid.
“Ond roedd ton anferthol o bobol newydd wedi dod.
“Roedd y 32% yn cynnwys pobol tu allan i Gymru oedd wedi bod yn aros ers blynyddoedd i ddysgu Cymraeg.”
‘Grŵp allweddol‘
Er bod llai o bobol yn dysgu Cymraeg ers 2020, mae’r cynnydd diweddar yn arwyddocaol hefyd.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod gwersi am ddim i bobol ifanc rhwng 18-25.
“Wel, dyma ein cenhedlaeth ddigidol ni,” meddai Helen Prosser.
“Eleni, dw i hefyd eisiau gweld dosbarthiadau wyneb yn wyneb i’r grŵp oedran yma, achos mae angen i bobol ifanc gymdeithasu.”
- Bydd podlediad ‘Mewnolwg’ ar gael ddydd Llun, Mawrth 13.