Mae Joe Ledley yn beldroediwr rhyngwladol. Mae o hefyd yn un o sêr y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar S4C. Mae’n un o chwech o bobl adnabyddus fydd yn mynd ar daith i ddysgu’r iaith yn y gyfres.

Mae Joe wedi gwisgo crysau Dinas Caerdydd, Crystal Palace a Celtic – ac enillodd 77 o gapiau dros Gymru, gan gyrraedd yr Ewros yn 2016.

Dach chi’n cofio gweld y fideo o Joe Ledley yn dawnsio ar ôl i Gymru guro Gwlad Belg yn yr Ewros? Roedd y fideo wedi mynd yn feiral. Roedd hi’n dangos bod gan Joe sgiliau oddi ar y cae pêl-droed hefyd!

Yn y bennod yma o Iaith ar Daith mae cyflwynydd Sgorio a Radio Cymru, Dylan Ebenezer, yn helpu Joe i ddysgu Cymraeg.

Mae eu taith yn mynd a nhw i Gaernarfon, Llyn Padarn yn Llanberis a Dolgellau. Maen nhw wedyn yn mynd i Aberystwyth.

Un o’r heriau i Joe a Dylan ydy dysgu dawns newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Gwyliwch y fideo i weld sut hwyl maen nhw’n cael arni!

Iaith Ar Daith, Nos Sul 7 Mai, 8.00, S4C          

Isdeitlau Saesneg