Mae Joe Ledley yn beldroediwr rhyngwladol. Mae o hefyd yn un o sêr y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar S4C. Mae’n un o chwech o bobl adnabyddus fydd yn mynd ar daith i ddysgu’r iaith yn y gyfres.
Mae Joe wedi gwisgo crysau Dinas Caerdydd, Crystal Palace a Celtic – ac enillodd 77 o gapiau dros Gymru, gan gyrraedd yr Ewros yn 2016.
Dach chi’n cofio gweld y fideo o Joe Ledley yn dawnsio ar ôl i Gymru guro Gwlad Belg yn yr Ewros? Roedd y fideo wedi mynd yn feiral. Roedd hi’n dangos bod gan Joe sgiliau oddi ar y cae pêl-droed hefyd!
Yn y bennod yma o Iaith ar Daith mae cyflwynydd Sgorio a Radio Cymru, Dylan Ebenezer, yn helpu Joe i ddysgu Cymraeg.
Mae eu taith yn mynd a nhw i Gaernarfon, Llyn Padarn yn Llanberis a Dolgellau. Maen nhw wedyn yn mynd i Aberystwyth.
Un o’r heriau i Joe a Dylan ydy dysgu dawns newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.
Gwyliwch y fideo i weld sut hwyl maen nhw’n cael arni!
Iaith Ar Daith, Nos Sul 7 Mai, 8.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Mae'r peldroediwr @joe16led yn un o sêr y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar @S4C, ac mae'r cyflwynydd @DylanEbz yn ei helpu ar y daith 🏴
Un o'r heriau oedd dysgu dawnsio – mae Joe yn dangos bod ganddo sgiliau oddi ar y cae pêl-droed hefyd! pic.twitter.com/Jd8oWNL9hj
— Lingo Newydd / Lingo360 (@lingonewydd) May 4, 2023