Cyn i fi ddechrau sgwennu am fy nhaith ddiweddar o gwmpas Cymru, wnes i feddwl y baswn i’n siarad am fy hoff beth i’w wneud yma yn ardal Santa Barbara: mynd i flasu gwin!

Er bod grawnwin wedi cael eu tyfu yng Nghaliffornia ers y 1600au, nid tan y 1970au y daeth gwin Califfornia yn boblogaidd dros y byd ac yn enwog am ei ansawdd. Ar ôl ennill cystadleuaeth Blasu Gwin Paris yn 1976 gyda gwinoedd o’r gogledd, ymledodd gwinllannoedd yn gyflym ledled Califfornia. Heddiw, mae mwy na 4,000 gwindy yng Nghaliffornia, a diolch i effaith ffilmiau fel Sideways yn 2004, mae’r busnes gwin yn fwy nag erioed.

Pawlie ac Andrew yn Blackjack Ranch sydd yn y ffilm Sideways

Yn fy ardal i, sef Sir Santa Barbara, mae mwy na 300 gwindy a gwinllannoedd – y rhan fwyaf yn Nyffryn Santa Ynez dros y mynyddoedd – sy’n tyfu llawer o wahanol fathau o rawnwin.

Mae gyda ni saith rhanbarth arbennig ar gyfer tyfu grawnwin (AVA – American Viticultural Area) – tebyg i system AOC Ffrainc  (Appellation d’Origine Contrôlée), sy’n cynhyrchu bron i 10 miliwn galwyn o win bob blwyddyn.

Mae wastad rhywbeth newydd i weld (a blasu) yn Nyffryn Santa Ynez, a doeddwn i ddim wedi bod yno i flasu gwin ers talwm. Roedd rhaid i fi wneud rhywbeth am hynny. Felly…

Dydd Llun yma, cymerais ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith i fynd i flasu gwin. Ffoniais fy ffrind Andrew, sy’n byw yn Nyffryn Santa Ynez ac yn mwynhau gwin cymaint â fi.

Ac fel fi, mae Andrew yn ddinesydd deuol (Deyrnas Unedig ac UDA) – felly roedden ni’n ddau ‘Brit’ yng Nghaliffornia, yn crwydro o gwmpas y gwinllannoedd yn Santa Ynez yn lle gweithio!

Ein stop cynta’ oedd Blackjack Ranch, un o’r gwindai oedd yn Sideways – gydag arwydd o flaen y winllan i brofi hynny! Cafodd Blackjack ei ddechrau yn y 90au gan y perchennog a’r gwinwr Roger Wisted. Roedd Roger wedi plannu ei winwydd yn 1996. Roedd yn canolbwyntio ar rawnwin Bordeaux – Cabernet Sauvignon, Cabernet Franc, a Merlot – ond nawr mae e’n tyfu Syrah, Chardonnay, a mwy. Roedd Roger wedi cynhyrchu ei win cyntaf yn 1997, wedyn agorodd ei ystafell flasu yn 1999. Roedd yr holl winoedd yn ardderchog yn ystod ein hymweliad – yn enwedig y Syrah. Wrth gwrs, cyn i ni brynu ychydig o boteli a symud ymlaen, roedd rhaid i ni dynnu hunlun o flaen yr arwydd Sideways. Am dwristiaid!

Gwinllan Beckmen

Dim ond milltir i ffwrdd oedd yr ail windy: Gwinllannoedd Beckmen. Cafodd ei agor yn 1994 gan Tom Beckmen, sylfaenydd Roland Corp US – cwmni llwyddiannus sy’n gwneud offerynnau cerddorol electronig. Mae Gwinllannoedd Beckmen yn canolbwyntio ar winoedd Rhône: Syrah, Grenache, ac ambell un arall.

Mae’r rhan fwyaf o winoedd Beckmen yn defnyddio grawnwin o’u dwy winllan yn Los Olivos AVA a Purisima Mountain AVA. Mae gan windy Beckmen ystafell flasu gyfforddus, gwinoedd Rhône ardderchog, a staff cyfeillgar (sy’n cynnwys rhai aelodau o deulu Tom). Roedd hi’n 10 mlynedd ers i fi ymweld â nhw, felly roedd yn brofiad bendigedig i ymlacio gyda chriw Beckmen unwaith eto.

Yn ola’, aethon ni hanner milltir i lawr y ffordd i Windy Roblar. Mae’n un o’r gwindai mwy newydd yn Nyffryn Santa Ynez. Agorodd Kevin a Niki Gleason a’r teulu ddrysau’r gwindy yn 2007. Erbyn hyn mae’n cynhyrchu gwinoedd nodedig yn yr ardal. Mae Roblar yn tyfu amryw o wahanol fathau o rawnwin: Sauvignon Blanc, Viognier, Sangiovese, Syrah, Grenache, Mourvedre, Cabernet Sauvignon, Merlot, Cabernet Franc, a Petit Verdot — sy’n eithriadol am un gwindy!

Ac, roedd pob un ohonyn nhw yn flasus iawn, yn enwedig y Petite Sirah: cyfoethog, dwfn, ac yn aros yn eich ceg am awr. Perffeithrwydd mewn potel.

Dw i wedi clywed bod mwy a mwy o winllannoedd a gwindai’n dechrau agor yng Nghymru. Pan fydda’i yno flwyddyn nesa, dw i’n bendant yn edrych ymlaen at flasu’r gwinoedd!

Yn y cyfamser, cawson ni ddiwrnod ymlaciol yn crwydro o amgylch Dyffryn Santa Ynez, yn siarad â phobl yn y gwinllannoedd, ac yn blasu ffrwythau eu llafur.

Cymaint gwell na gweithio!