Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.
Mwynhewch!
Maen nhw wedi agor capsiwl amser o dan yr ysgol leol. Can mlynedd yn ôl roedd y plant wedi ysgrifennu sut maen nhw’n meddwl bydd y byd yn newid. Beth roedden nhw wedi’i ysgrifennu?
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.