Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

Disgrifiwch arogl drwg, ac o lle mae o wedi dod.

Geirfa berthnasol:

drewi

drewdod

pydru

pydredd

erchyll

ofnadwy

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.