Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Dyma’r dasg ar gyfer lefel Sylfaen. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

SYLFAEN

Dach chi’n eistedd i lawr yn cael pryd o fwyd efo ffrind. Mae’r ffrind yn cael galwad ffôn. Rhaid bod yr alwad yn bwysig. Mae’n siarad am amser hir.  Dach chi’n clywed hanner y sgwrs. Ysgrifennwch hanner o’r sgwrs eich ffrind.

 

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.