Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.
Mwynhewch!
Rwyt ti wedi ennill £5,000 mewn raffl, ond mae un broblem. Rhaid i ti wario’r arian i gyd dros y penwythnos. Beth wyt ti’n mynd i wneud gyda’r arian?
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.