Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.
Mwynhewch!
Rwyt ti’n berson enwog (does dim rhaid bod o Gymru). Beth ydy dy rwtîn dyddiol?
Dyma enghraifft…
Bryn Terfel
Dw i’n codi am chwech bob bore.
Dw i’n garglo gyda dŵr a halen, yna dw i’n ymarfer canu.
Wedyn dw i’n mynd allan am dro.
Dw i’n hoffi stopio yn y caffi ar y gornel i gael brecwast.
Pan dw i’n dŵad adre, dw i’n siarad efo fy asiant ar y ffôn.
Dw i’n mynd i’r tŷ opera am 15:00 i ymarfer efo’r cast.
Dw i’n cael swper cynnar ac yn ymlacio.
Am 18:00 dw i’n mynd i wisgo.
Am 19:00 dw i’n dechrau canu opera.