Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.

Mwynhewch!

Chi ydy’r person cyntaf ar y blaned Mawrth. Ysgrifennwch gerdyn post at eich ffrindiau i ddisgrifio’r lle a beth dach chi’n ‘neud yna.

Ydy’n oer ar y blaned? Ydy’n boeth? Sut mae’n edrych?

Y blaned Mawrth

Dych chi’n gallu ysgrifennu cerdyn post i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.