Mae hi’n Ddydd Gŵyl Dewi heddiw (Mawrth 1).

Heddiw, rydyn ni’n dathlu ein nawddsant, Dewi Sant.

Pwy oedd Dewi Sant?

Dewi Sant oedd y ffigwr mwyaf yn Oes y Seintiau yng Nghymru yn y chweched ganrif.

Roedd Dewi Sant wedi creu cymunedau crefyddol.

Yn yr unfed ganrif ar ddeg, roedd yr ysgolhaig Rhygyfarch yn ysgrifennu am Ddewi Sant.

Yn ôl Rhygyfarch, cafodd Dewi Sant ei eni yn Sir Benfro tua 500O.C., a’i dad-cu oedd Ceredig ap Cunedda, brenin Ceredigion.

Daeth yn bregethwr enwog, gan sefydlu aneddiadau mynachaidd ac eglwysi yng Nghymru, Llydaw a Lloegr, gan gynnwys Abaty Glastonbury, efallai.

Roedd e wedi gwneud pererindod i Jerwsalem, a dod yn Archesgob,sefydlu cymuned grefyddol yn Nhyddewi yn Sir Benfro.

Roedd yn enwog am ei lymder duwiol – roedd yn byw ar gennin a dŵr ac yn gallu gwneud gwyrthiau.

Unwaith, wrth bregethu yn Llanddewi Brefi, cododd y ddaear o dan ei draed er mwyn i bawb glywed ei bregeth.

Bu farw Dewi Sant ar Fawrth 1 – Dydd Gŵyl Dewi – yn y flwyddyn 589.

Daeth yn Sant yn y deuddegfed ganrif, ac rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ers hynny.

Sut rydym yn dathlu?

Rydym yn dathlu’n draddodiadol drwy wisgo cennin pedr a chennin, a bwyta bwyd traddodiadol Cymreig gan gynnwys cawl.

Mae rhai merched hefyd yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol.

Mae rhai dinasoedd a threfi hefyd yn cynnal gorymdeithiau.